Mae trigolion, gyrwyr, beicwyr, beicwyr modur a defnyddwyr ffyrdd gwledig yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd Rheolau’r Ffordd Fawr a chymryd gofal ychwanegol ar ffyrdd lleol.
Mae’r neges ymwybyddiaeth yn tynnu sylw at amrywiaeth o faterion diogelwch ffyrdd bob dydd, gan gynnwys cerbydau amaethyddol, gyrru gwledig, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, defnyddio ffôn symudol, e-feiciau ac e-sgwteri, iechyd llygaid, gwregysau diogelwch, swyddogion croesi ysgolion a’r 5 Angheuol.
Ffyrdd gwledig a cherbydau amaethyddol
Mae ffyrdd gwledig yn cael eu defnyddio gan amrywiaeth eang o bobl a cherbydau, gan gynnwys cerddwyr, beicwyr, marchogion, beicwyr modur, cerbydau amaethyddol a da byw.
Anogir gyrwyr i arafu, aros yn amyneddgar a bod yn barod ar gyfer peryglon annisgwyl fel mwd ar y ffordd, cerbydau fferm sy’n symud yn araf, anifeiliaid, troeon a lonydd cul.
Mae gan ffermwyr, tirfeddianwyr a chontractwyr rôl bwysig i’w chwarae wrth gadw ffyrdd yn ddiogel. Gall mwd, dŵr a malurion o gaeau neu safleoedd waethygu cyflwr wyneb y ffordd a chreu perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
Atgoffir unrhyw un sy’n defnyddio cerbydau oddi ar y ffordd i glirio mwd a malurion gormodol cyn teithio ar ffyrdd cyhoeddus, ac i sicrhau bod trelars a cherbydau yn ddiogel, yn gyfreithlon ac nad ydynt wedi’u gorlwytho.
Hefyd, atgoffir gyrwyr i gymryd gofal ychwanegol o amgylch anifeiliaid. Wrth basio ceffylau, da byw neu anifeiliaid eraill, dylai gyrwyr yrru’n araf, rhoi digon o le iddynt ac osgoi seinio’r corn, refio’r injan neu gyflymu’n sydyn.
Gyrru dan ddylanwad
Mae’r ymgyrch hefyd yn atgoffa trigolion y gall gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau gael canlyniadau dinistriol.
Gall gyrru dan ddylanwad arwain at waharddiad gyrru, cofnod troseddol, dirwyon, carchar ac yn fwyaf difrifol, y risg o ladd neu achosi anaf difrifol i’ch hun neu eraill.
Defnyddio ffôn symudol
Mae defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn parhau i fod yn bryder allweddol arall. Mae yn erbyn y gyfraith i ddal a defnyddio ffôn symudol neu ddyfais debyg wrth yrru, gan gynnwys pan fyddwch yn stopio wrth oleuadau traffig, yn ciwio mewn traffig, neu’n goruchwylio rhywun sy’n dysgu gyrru. Mae’r gyfraith yn dal i fod yn berthnasol pan fydd y ffôn yn y ‘modd awyren’.
Gall gyrwyr dderbyn chwe phwynt cosb a dirwy o £200, a gallai gyrwyr newydd golli eu trwydded. Gall achosion sy’n mynd i’r llys arwain at ddirwyon uwch neu waharddiad gyrru.
Caniateir dyfeisiau lle nad oes rhaid defnyddio dwylo, ond rhaid i yrwyr beidio â dal y ffôn ar unrhyw adeg, a rhaid i’r ddyfais beidio â rhwystro eu golwg o’r ffordd.
Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y dylid defnyddio ffôn, megis mewn argyfwng pan nad yw’n ddiogel stopio, pan fyddwch wedi parcio’n ddiogel, wrth wneud taliad digyffwrdd mewn cerbyd llonydd, neu wrth dalu am barcio gan ddefnyddio ap.
Beicwyr modur
Mae beicwyr modur yn grŵp arall sy’n cael ei amlygu fel grŵp agored i niwed. Atgoffir gyrwyr i gadw llygad am feicwyr modur ar gyffyrdd, wrth newid lonydd a chyn tynnu allan.
Mae’r neges yn syml: “Un funud rydych chi’n eu gweld, y funud nesaf maen nhw wedi mynd.” Gall beicwyr modur fod yn anodd eu gweld, ond gall edrych ddwywaith achub bywyd.
Defnyddio’r llaw bellaf
Mae’r neges ymwybyddiaeth o Reolau’r Ffordd Fawr hefyd yn annog gyrwyr a theithwyr i ddefnyddio techneg benodol wrth agor drysau cerbydau.
Y dechneg yw defnyddio’r llaw bellaf o handlen y drws, troi eich corff ac edrych dros eich ysgwydd am feicwyr, beicwyr modur a defnyddwyr eraill y ffordd cyn agor y drws.
E-feiciau ac e-sgwteri
Mae e-feiciau ac e-sgwteri hefyd wedi’u cynnwys yn y canllawiau ymwybyddiaeth. Rhaid i feiciau pedal â chymorth trydan fodloni gofynion cyfreithiol, gan gynnwys cael modur gydag uchafswm allbwn pŵer graddedig parhaus o 250 wat ac un sy’n peidio â rhoi cymorth dros 15.5 milltir yr awr.
Ni ellir defnyddio e-sgwteri preifat yn gyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd neu lonydd beicio, a dylid eu defnyddio ar dir preifat gyda chaniatâd y tirfeddiannwr yn unig.
Golwg
Mae golwg da yn rhan hanfodol arall o ddiogelwch ar y ffyrdd. Rhaid i yrwyr a beicwyr modur allu darllen plât rhif cofrestru cerbyd o 20 metr, neu 20.5 metr ar gyfer cerbydau a gofrestrwyd cyn Medi 2001, gan ddefnyddio sbectol neu lensys cyffwrdd os oes angen.
Anogir unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd darllen arwyddion ffordd, sy’n ei chael hi’n anodd gweld yn y tywyllwch, neu sy’n profi newidiadau o ran eu golwg i drefnu prawf llygaid.
Swyddogion croesi ysgolion
Mae’r ymgyrch hefyd yn atgoffa gyrwyr o’r rôl bwysig y mae swyddogion croesi ysgolion yn ei chwarae wrth gadw plant a cherddwyr yn ddiogel.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i yrwyr stopio pan fydd swyddog croesi ysgol yn dangos arwydd stop. Pan fydd yr arwydd yn cael ei godi, dylai gyrwyr fod yn barod i stopio, a phan fydd y swyddog croesi yng nghanol y lôn gerbydau yn dangos yr arwydd, rhaid i’r holl draffig stopio ac aros yn llonydd nes bod yr holl gerddwyr a’r swyddog croesi ysgol wedi gadael y lôn gerbydau a’i bod yn ddiogel parhau.
Y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf
Mae Rheolau’r Ffordd Fawr wedi’u diweddaru hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar amddiffyn pobl sy’n wynebu’r risg fwyaf ar y ffordd, gan gynnwys cerddwyr, beicwyr, marchogion a beicwyr modur.
Atgoffir gyrwyr y gall beicwyr reidio ochr yn ochr â’i gilydd ac maen nhw’n gallu reidio yng nghanol y lôn mewn rhai sefyllfaoedd.
Wrth oddiweddyd, dylai gyrwyr adael o leiaf 1.5 metr wrth basio pobl sy’n beicio ar gyflymder hyd at 30 milltir yr awr a rhoi mwy o le ar gyflymder uwch.
Dylai gyrwyr basio marchogion a cherbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau ar gyflymder o dan 10 milltir yr awr, gan ganiatáu o leiaf 2 fetr o le. Dylent hefyd ganiatáu o leiaf 2 fetr o le wrth fynd heibio pobl sy’n cerdded ar y ffordd.
Y 5 Angheuol
Mae’r ymgyrch ymwybyddiaeth hefyd yn tynnu sylw at y 5 Angheuol – y pum prif achos o wrthdrawiadau ac anafiadau traffig ffordd:
- Peidiwch ag yfed a gyrru
- Arafwch
- Peidiwch â bod yn ddiofal
- Gwisgwch eich gwregys diogelwch
- Diffoddwch eich dyfais
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Ddiogelwch ar y Ffyrdd a Rheoli Traffig: “Mae diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb i bawb. P’un a ydych chi’n gyrru, beicio, cerdded, reidio ceffyl neu ddefnyddio beic modur, gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr.”
“Trwy arafu, bod yn wyliadwrus, gwisgo gwregys diogelwch, rhoi ffonau symudol i’r naill ochr a pheidio byth â gyrru dan ddylanwad, gallwn ni i gyd helpu i leihau’r risg o anafiadau difrifol a chadw ein cymunedau’n ddiogel.”
“Byddwn i’n annog pawb i ddiweddaru eu gwybodaeth a chymryd gofal ar bob taith, yn enwedig ar ffyrdd gwledig ac o amgylch defnyddwyr agored i niwed y ffordd.”
Anogir trigolion i ddiweddaru eu gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr a chymryd gofal ychwanegol ar bob taith, waeth pa mor fyr neu gyfarwydd yw’r llwybr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Diogelwch Ffyrdd Cymru, a gallwch ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr ar wefan GOV.UK.




