Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen RPM Fitness
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > RPM Fitness
Busnes ac addysgPobl a lle

RPM Fitness

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 2, 2026 4:46 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
RPM Fitness
RHANNU

Mae RPM Fitness, dan arweiniad y cyd-sylfaenwyr Gavin a Jon, yn gampfa sy’n canolbwyntio ar gryfder a chyflyru. Maen nhw’n croesawu pobl o bob gallu ac yn parhau i dyfu ei gynnig yn y gymuned leol.

Mae’r gampfa yn adnabyddus am ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel mewn amgylchedd cefnogol, cymunedol, gan weithio gyda phawb o ddechreuwyr llwyr i athletwyr profiadol.


Trwy hyfforddiant personol i grwpiau bach, hyfforddiant un-i-un a rhaglenni wedi’u teilwra, mae RPM Fitness yn cefnogi aelodau i adeiladu cryfder, gwella ffitrwydd a datblygu arferion iach cynaliadwy, hirdymor. Mae ei ddull yn canolbwyntio nid yn unig ar berfformiad corfforol, ond hefyd ar hyder, cysondeb a lles cyffredinol.


Ochr yn ochr â’i wasanaethau hyfforddi craidd, mae RPM Fitness yn ehangu ei gynnig cymorth i bobl ifanc. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar greu amgylchedd cadarnhaol â strwythur lle gall pobl ifanc feithrin hyder, datblygu disgyblaeth a gwella lles corfforol a meddyliol trwy hyfforddiant a mentora rheolaidd. Nod y rhaglen yw cefnogi canlyniadau cryfach y tu mewn a’r tu allan i’r gampfa, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a gwydnwch sy’n fanteisiol iddyn nhw yn eu bywydau bob dydd.


Mae’r busnes wedi cael cymorth gan y Tîm Busnes a Buddsoddi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd wedi gweithio’n agos gyda RPM Fitness i gefnogi ei gynlluniau twf a helpu i gryfhau ei gyfraniad at iechyd, lles a datblygiad cymunedol lleol.


Dywedodd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol ar gyfer yr Economi, Busnes a Thwristiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:“Roedd yn wych ymweld â Gavin a Jon yn eu Campfa a gweld sut mae tîm busnes CBSW wedi helpu a’u cefnogi i symud yn llwyddiannus i’w huned newydd yn Pandy. “Rydw i’n siŵr y byddan nhw’n parhau i dyfu o nerth i nerth yn y dyfodol.”

TAGGED:RPM Fitness
Rhannu
Erthygl flaenorol Arafwch, byddwch yn wyliadwrus, achubwch fywydau: Nodyn atgoffa diogelwch am Reolau’r Ffordd Fawr Arafwch, byddwch yn wyliadwrus, achubwch fywydau: Nodyn atgoffa diogelwch am Reolau’r Ffordd Fawr
Erthygl nesaf Tourettes Action yn Lansio Ymgyrch #DimDewis ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Tourette 2026 Tourettes Action yn Lansio Ymgyrch #DimDewis ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Tourette 2026

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English