Mae archfarchnadoedd, siopau a busnesau ar draws Wrecsam yn cael eu hannog i ddangos i’w cwsmeriaid a’u cymunedau eu bod yn malio trwy fabwysiadu Ardal Ddi-sbwriel o amgylch eu busnes.
Mae nifer o fusnesau’n cefnogi mentrau newid hinsawdd fel defnyddio nwyddau lleol a defnyddio deunydd pecynnu y gellir eu hailgylchu neu lai o ddeunydd pecynnu – ond nid yw llawer ohonynt yn edrych ar yr amgylchedd sy’n union o amgylch eu busnesau eu hunain, lle mae llawer o sbwriel i’w weld mewn rhai achosion.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae hyn yn arwain at alwadau neu gwynion i’r Cyngor am ardaloedd o sbwriel, ond ni allwn wneud llawer oherwydd nad ein tir ni ydyw.
Nawr, rydym yn annog busnesau i feddwl yn ehangach a gosod yr esiampl y tu allan i’w heiddo yn ogystal â’r tu mewn.
Mae tystiolaeth i ddangos bod cynnig cyfle i staff wirfoddoli wedi gwella cynhyrchiant, morâl a chyfraddau cadw staff.
Mae enghraifft ddiweddar yn Johnstown yn dangos sut gellir tacluso ardal yn rhwydd pan gafodd mwy na 30 bag o sbwriel eu casglu o’r Co-op gan y grŵp casglu sbwriel lleol.
Mae’r archfarchnad yn trefnu eu digwyddiadau casglu sbwriel eu hunain nawr, a rhywfaint o waith plannu yn yr ardal.
Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Roedd sylwadau ar ein neges cyfryngau cymdeithasol ar ôl y digwyddiad glanhau yn gadarnhaol iawn ac roeddent yn dangos faint mae pobl yn malio am eu hamgylchedd.
“Gobeithio y bydd gweld pa mor braf mae’r tu allan i’r archfarchnad yn edrych nawr yn annog busnesau eraill i ymrwymo i fod yn Ardal Ddi-sbwriel er mwyn sicrhau ei fod yn edrych yn dda trwy gydol y flwyddyn.”
Sut all fy musnes gymryd rhan?
Fe’ch anogir i gofrestru eich diddordeb ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus a helpu i gadw eich ardal leol yn lân heb sbwriel trwy ddigwyddiadau rheolaidd Casglu Sbwriel.
Gallwch fenthyg offer casglu sbwriel trwy Brosiect Caru Cymru o’ch Canolbwynt Casglu Sbwriel lleol Cadwch Gymru’n Daclus (dolen) neu gallwch brynu eich offer eich hun am bris gostyngol gan Helping Hand Environmental sy’n cefnogi’r cynllun.
Mae mabwysiadu Ardal Ddi-sbwriel yn arwydd i’ch cwsmeriaid eich bod yn fusnes sydd yn cymryd problem sbwriel o ddifrif. Byddwn yn darparu’r adnoddau i’ch helpu i gyhoeddi eich statws Ardal Ddi-sbwriel.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: Carucymru@wrexham.gov.uk.
Ychwanegodd y Cyng Bithell, “Nid oes ots beth yw maint eich busnes, mawr neu fach. Rydych chi’n bwysig yn eich cymunedau a gallwch chi wneud gwahaniaeth i’r gymuned honno.
“Rydym i gyd am weld Wrecsam mwy glân a mwy gwyrdd, a gallwn i gyd chwarae ein rhan i wneud i hyn ddigwydd, naill ai trwy ein gwaith, ein hamdden neu trwy ddefnyddio bin sbwriel ac annog pawb i wneud yr un fath.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL