Mae Bwrdd Cynghori Ieuenctid (BCI) newydd Tŷ Pawb wedi bod yn cydweithio â’r artist Harold Offeh fel cyfuniad o artistiaid, gan ddatblygu maniffesto.
Mae gweithiau celf, ffilmiau a pherfformiadau, yn meddiannu’r oriel hon ar ffurf arddangosfa sy’n canolbwyntio ar themâu o werin, dyfodolliaeth Cymraeg a dianc.
O 2020 ymlaen, dechreuodd Tŷ Pawb ddatblygu bwrdd cynghori newydd, gan ddefnyddio cyllid o ymgyrch ‘Respond and Reimagine’ Art Fund. Bydd y bwrdd yn grŵp amrywiol a chynhwysol o unigolion 16-25 oed.
Gwnaed ymdrech ragweithiol i recriwtio pobl ifanc â nodweddion gwarchodedig, o amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol ac economaidd.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Nod y BCI yw cefnogi pobl ifanc i gael profiad yn sector y celfyddydau, nid yn unig yn Wrecsam ond ledled Cymru. Mae’r BCI hefyd yn anelu at greu deialog, trafodaeth a phrofiadau ystyrlon i feincnodi a chefnogi arfer da.
Bydd y Bwrdd hefyd yn helpu i gefnogi gweledigaethau a nodau strategol Tŷ Pawb, ymgysylltiad a rhaglennu i gefnogi gwaith ymgysylltu â phobl ifanc Tŷ Pawb yn well.
Mae Annwn yn rhoi cyfle i’r BCI arddangos eu llais cyfunol, gyda’r Bwrdd yn dweud:
“Mae arddangosfa’r BCI yn canolbwyntio ar Ddyfodoliaeth Cymraeg a’i chysylltiadau ag iaith, gweriniaeth a thirwedd. Yn pontio’r dyfodol a’r gorffennol, rydym yn cwestiynu’r potensial i ail-ddychmygu diwylliant Cymreig drwy greu ein byd arallfydol ein hunain – yr Annwn.
Wedi’n hysbrydoli gan fytholeg Gymraeg ganoloesol gynnar, rydym yn archwilio’r cysyniad o ddianc mewn cysylltiad â sut rydym ni fel artistiaid yn edrych ar y dyfodol.
“Roedd yn bwysig i’r gwaith celf dan sylw gael ei guradu gennym ni fel grŵp cyfunol, a bod y broses greadigol yn adlewyrchu nodau ac ethos ein maniffesto. Mae ein prosiect wedi cynnwys cynnal trafodaethau ar hygyrchedd, gwleidyddiaeth gofal a’r pwysigrwydd o ddad-ddirdoli celf.”
Yn yr arddangosfa hon mae detholaeth o arlunwyr o Ogledd Cymru, wedi’u curadu gan y BCI gyda Jonathan Powell, Cyfarwyddwr Oriel Elysium a BEEP Painting Biennial. Mae teitl yr arddangosfa, Annwn, sy’n cyfieithu fel ‘the Otherworld’, yn cael ei ysbrydoli gan fytholeg Cymraeg.
Mae’r arddangosfa hefyd yn cymryd ei henw o deitl un o baentiadau Pete Jones, a ddewiswyd i’w harddangos gan y Bwrdd.
Bydd Annwn yn datblygu ac yn trawsnewid yn yr oriel dros y cyfnod arddangos, tra bod taith rithwir sefydlog wedi’i rendro’n ddigidol yn bodoli ar-lein.
Wrth i’r arddangosfa ddatblygu, felly hefyd fydd maniffesto a gweledigaeth y BCI ar gyfer eu Tŷ Pawb nhw, gyda mwy o ddigwyddiadau’n cael eu cyhoeddi drwy gydol yr arddangosfa.
Taith Rithiol
Taith rithwir gwbl ryngweithiol o’r arddangosfa.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF