Os nad ydych wedi cael cyfle i weld arddangosfa ragorol Tŷ Pawb, Print Rhyngwladol, yna mae yna newyddion da!
Bydd yr arddangosfa nawr yn aros ar agor tan ddydd Sadwrn, Chwefror 8, felly mae gennych chi wythnos ychwanegol i ddod i fwynhau gwledd o waith celf gwych o bob cwr o’r byd.
Mae Print Rhyngwladol yn cynnwys gwaith gan dros 85 o artistiaid o 10 gwlad dros 3 chyfandir.
Mae dros 3,500 o ymwelwyr wedi gweld yr arddangosfa ers y diwrnod agoriadol yn ôl ym mis Tachwedd 2019.
Cyflwynwyd gwobrau mewn pum categori ar y noson agoriadol. Gweler yr erthygl hon i weld y rhestr lawn o enillwyr.
Mae un wobr i’w dyfarnu o hyd – Gwobr y Bobl. Bydd hyn yn cael ei benderfynu trwy bleidlais gyhoeddus sy’n digwydd trwy gydol yr arddangosfa, felly peidiwch ag anghofio dewis eich ffefryn pan ymwelwch chi!
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.
“Gallai hon fod yr arddangosfa brint fwyaf yng Nghymru”
Dywedodd Curadur yr Arddangosfa, Karen Whittingham o Tŷ Pawb: “Rydyn ni wedi cael ein synnu’n llwyr gan yr ymateb rydyn ni wedi’i gael i’r arddangosfa hon ers i ni anfon yr alwad agored am gynigion ym mis Mehefin. Cyflwynwyd dros 400 o ddelweddau o bob cwr o’r byd. ac rydym yn credu y gallai hon fod yr arddangosfa brint fwyaf yng Nghymru mewn gwirionedd!
“Roedd y noson agoriadol yn achlysur hyfryd, diolch enfawr i Adam Netting, ein technegydd oriel, am ei holl waith yn rhoi’r arddangosfa at ei gilydd, i’n holl noddwyr arddangosfeydd a gwobrau ac wrth gwrs i’r holl artistiaid ac i’n panel beirniadu.”
Stiwdio print byw yn yr oriel
Ochr yn ochr â Print Rhyngwladol, mae’r artist Pam Newall wedi cydweithio â Tŷ Pawb ac Oswestry’s Designs in Mind i ddatblygu stiwdio argraffu byw yn yr oriel. O dan y teitl Gwneud Print bydd y stiwdio yn creu dyluniadau print a fydd yn ymddangos ar gynhyrchion a fydd yn cael eu gwerthu trwy Designs in Mind – JOLT a Siop//Shop Tŷ Pawb.
Fel rhan o Gwneud Print, mae Pam Newall hefyd wedi curadu archif o brintiau a thaflenni sy’n cynrychioli cyfnod penodol yn y 1970au. Mae’r archif wedi’i fenthyg yn hael o Stiwdio Argraffu Bradford gan Dr Robert Galeta, Darlithydd, a Pam Brooks, Darlithydd mewn Astudiaethau Beirniadol a Chyd-destunol, yn Ysgol Gelf Bradford.
- Mae Print Rhyngwladol a Gwneud Print yn rhedeg tan Chwefror 8 2020.
- Diolch enfawr i noddwyr yr arddangosfa: John Purcell Paper, Screenstretch Ltd, Intaglio Printmaker, Pressing Matters magazine a Canolfan Argraffu Ranbarthol / Regional Print Centre