Y dyddiau hyn pan fydd rhywun yn marw, rydym yn cael pobl broffesiynol i wneud y trefniadau ar gyfer yr angladd Ond yn oes Fictoria, roedd pethau’n wahanol iawn.
Mae gan y capel ym Mynwent Wrecsam arddangosfa newydd o’r enw ‘The Victorian Culture of Death’ ac mae’n edrych ar draddodiadau a rheolau mewn perthynas ag angladdau a galaru yn oes Fictoria, felly gallwch weld beth oedd y gwahaniaethau!
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON
Bydd yr arddangosfa yno tan fis Tachwedd, felly gallwch fynd yno a chael gwybod am arferion galaru, arferion angladdau, pwysigrwydd blodau, gwaith saer maen cofebion a symbolau ar gerrig beddi, edrych ar sut yr oedd pobl yn cael eu trin mewn marwolaeth yn oes Fictoria o’i gymharu â heddiw.
Mae’r arddangosfa wedi’i roi at ei gilydd ar y cyd gan fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr a gwirfoddolwyr.
Hefyd, mae cyfle i ddysgu mwy am Bobl Fictoria Wrecsam ar 8 Hydref, am 11am, lle cewch eich gwadd am daith o amgylch y fynwent, yn edrych ar feddi a chlywed am storïau yn ôl ymchwil gan wirfoddolwyr.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN