Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi bod yn cynnal arolwg o’r Gymraeg er mwyn cael barn siaradwyr Cymraeg yn y fwrdeistref sirol am eu dulliau dewisedig o gyfathrebu â ni a chael gwybodaeth gennym ni. Gofynnodd yr arolwg hefyd iddyn nhw pa iaith y maent yn ei defnyddio yn gymdeithasol ac yn y gweithle a pha mor aml y maent yn siarad Cymraeg.
Cynhaliwyd yr arolwg diweddaraf dros fis Chwefror a Mawrth ac mae’r canlyniadau wedi cyrraedd.
Yn galonogol, mae’r arolwg yn awgrymu bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n cysylltu â’r cyngor yn Gymraeg.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Dros y tair blynedd diwethaf, mae cynnydd sefydlog wedi bod hefyd yn nifer y bobl sy’n cysylltu â’r cyngor trwy gyfryngau cymdeithasol a’r wefan yn Gymraeg.
Rydym wedi gwrando…
Pwynt a amlygwyd yn y ddau arolwg blynyddol diwethaf oedd bod pobl yn teimlo ei bod yn bwysig i staff dwyieithog nodi yn glir eu bod yn siaradwyr Cymraeg. Oherwydd hyn rydym wedi dosbarthu llinynnau gwddf sy’n cynnwys y logo oren ‘Iaith Gwaith’ i bob aelod o staff sy’n siarad Cymraeg.
Yn yr arolwg, nodwyd hefyd nad oedd pawb yn sylweddoli bod y cyngor yn darparu gwasanaethau yn ddwyieithog. O ganlyniad, byddwn yn mynd ati i hyrwyddo ein gwasanaethau iaith Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth ymysg siaradwyr Cymraeg.
Gwnaethpwyd nifer o sylwadau am y diffyg aelodau o staff sy’n siarad Cymraeg mewn rhai adrannau. Gan hynny, byddwn yn edrych ar ein rhestr o swyddi newydd a swyddi gwag ac yn nodi bylchau mewn darpariaeth gwasanaethau er mwyn sicrhau bod digon o siaradwyr Cymraeg ym mhob adran.
Gwaith i’w wneud
Gwyddom bod gwaith i’w wneud er mwyn gwella, ac i sicrhau bod hyn yn digwydd rydym yn sefydlu grŵp ffocws ar-lein o siaradwyr Cymraeg lleol i’n helpu i ddeall yn well beth yw’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Dirprwy Arweinydd a Deilydd Portffolio ar gyfer y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam, “Rydw i’n falch ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n dewis cysylltu â ni yn Gymraeg ac mae’n galonogol iawn gweld cynnydd ar-lein gan fod hwn yn faes yr ydym wedi canolbwyntio arno dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi cymaint o gyfleoedd ag sy’n bosibl i’n preswylwyr sy’n siarad Cymraeg i gysylltu â ni trwy gyfrwng eu hiaith ddewisedig. Gobeithiaf y bydd nifer o’n preswylwyr yn derbyn y cynnig i fod yn rhan o’r grŵp ffocws fel ein bod yn cael barn a sylwadau gan draws-doriad mor eang ag sy’n bosibl o’n cymuned siaradwyr Cymraeg”.
Os hoffech fod yn rhan o’r grŵp ffocws ar-lein hwn, cysylltwch â ni ar cymraeg@wrexham.gov.uk
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU