Mae Arweinwyr y Chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru wedi cael cyfarfod gyda Phwyllgor Cabinet Llywodraeth Cymru ar Ogledd Cymru a gadeirir gan Ken Skates AC, Gweinidog Gogledd Cymru.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ac yn bresennol roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, Vaughan Gething AC, (Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol), Lesley Griffiths AC (Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig) a Hannah Blythyn AC (Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol). Ymunodd cynrychiolwyr Gweinidogion eraill yn y cyfarfod drwy fideo-gynadledda o Gaerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru:
“Y cyfarfod hwn rhwng Arweinwyr y Cynghorau a Chabinet Cymru, a drefnwyd gan Weinidog Gogledd Cymru, Ken Skates AC, oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Drwy’r ymgynulliad hwn o bobl crëwyd darn bach o Hanes Cymru.
“Roedd y cyfarfod yn ganlyniad i ymgysylltiad cyson a chadarnhaol gyda Ken Skates fel Gweinidog Gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y byddwn yn parhau i gyfarfod â’r Pwyllgor Cabinet gan ddatblygu pwrpas cyffredin er lles cymunedau Gogledd Cymru.
“Cawsom drafodaeth agored, onest ac eang am gyfleoedd a heriau strategol, allweddol a mwy o gyllid ar gyfer Gogledd Cymru. Y prif bwnc dan drafodaeth oedd yr economi a chludiant gyda’r nod o alluogi gweithio agosach rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Awdurdodau Lleol. Fe wnaethom hefyd drafod Iechyd, Cyllid Llywodraeth Leol a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol arfaethedig”.
Dywedodd Ken Skates AC, Gweinidog Gogledd Cymru:
“Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Gogledd Cymru, ynghyd â’n partneriaid rhanbarthol ehangach, yn cydweithio’n agos i wella economi a lles y rhanbarth. Rydym yn wynebu llawer o heriau ar ôl deng mlynedd o gyni wedi’i orfodi gan Lywodraeth y DU, ond mae llawer i fod yn bositif yn ei gylch hefyd gyda datblygiad Bargen Twf Gogledd Cymru a phrosiectau cyffrous ar draws Gogledd Cymru, megis AMRC Cymru ym Mrychdyn ac M-SParc yng Ngaerwen. Drwy gydweithio gallwn gyflawni llawer, ac mae llawer i’w wneud, yn cynnwys ymateb i’r her o ddadgarboneiddio’r economi a chludiant a mynd i’r afael â’r anawsterau y mae llawer o’n cymunedau gwledig a threfol yn eu hwynebu. Rwy’n falch iawn o fod wedi cynnal y cyfarfod Pwyllgor Cabinet cadarnhaol hwn gydag arweinwyr awdurdodau lleol, sy’n brawf o’n hymrwymiad ni fel Llywodraeth i Ogledd Cymru.”
Dywedodd Gweinidog Cymru, Mark Drakeford wrth Arweinwyr y Cynghorau bod gan y Cabinet hyder yng ngallu Cynghorau Gogledd Cymru i weithio ar y cyd â phartneriaid rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Diolchodd i’r arweinwyr am eu trafodaeth gytbwys a’u hawgrymiadau ymarferol a gofynnodd iddynt ddiolch ar ei ran i staff y Cynghorau a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi gweithio mor galed dros fisoedd heriol y gaeaf i ofalu am bobl yn yr ysbyty ac mewn gofal cymdeithasol. Mae’r Cabinet yn wirioneddol werthfawrogi eu gwaith caled.