Daeth arweinwyr y sector cyhoeddus a’r sector preifat o bob cwr o Ogledd Cymru ynghyd gydag arweinwyr addysg a phwysigion gwleidyddol ar gyfer cynhadledd bwysig.
Dyddiau’n unig ar ôl i Ganghellor y Trysorlys, Philip Hammond, gyhoeddi y bydd Llywodraeth y DU yn ymrwymo £120miliwn i Gynnig Twf Gogledd Cymru, roedd mwy na 200 o bobl yn Venue Cymru yn Llandudno ar gyfer uwchgynhadledd i drafod y camau nesaf tuag at Fargen Dwf hanfodol ar gyfer y rhanbarth.
Daeth fforwm Smart, Resilient and Connected â swyddogion ac aelodau o bob un o’r chwe awdurdod lleol – gan gynnwys Wrecsam – swyddogion gweithredol o’r maes addysg bellach ac addysg uwch, ac arweinwyr busnes ynghyd.
Fargen iawn
Roedd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Mims Davies, ac Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates AC, hefyd yn bresennol ac maen nhw wedi eu hymrwymo i gefnogi Bargen a fyddai’n helpu i symud y rhanbarth o fod yn dda i fod yn wych.
“Rhaid i hon fod yn fargen iawn. Rhaid iddi ganolbwyntio ar y prosiectau a fydd yn cyflwyno newid trawsnewidiol,” meddai’r Gweinidog Davies.
“Dylai graddfa ymrwymiad Llywodraeth y DU i Ogledd Cymru fod yn glir bellach… ewch i lunio llwybr i eraill ei ddilyn. Y nod yn y pen draw yw darparu prosiectau a all wneud gwahaniaeth go iawn i bobl y rhanbarth hwn.”
Ychwanegodd Mr Skates: “Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Bargen Dwf sy’n iawn i bobl, cymunedau a busnesau Gogledd Cymru ers tro.
“Wrth gydweithio, rhaid iddi weithredu fel sbardun i symud y rhanbarth hwn o fod yn dda i fod yn wych.”
£26biliwn erbyn 2035
Mae’r Cynnig Twf yn cynnwys 16 prosiect yn y meysydd canlynol: Datblygu Tir ac Eiddo, Mynediad Doeth at Ynni, Twristiaeth Antur ,Canolbwyntiau Technoleg ac Arloesi Doeth, Cronfa Fusnes Twf Rhanbarthol, Llwybrau at Sgiliau a Chyflogaeth, Canolfannau Rhagoriaeth Sgiliau, Cysylltedd Digidol, a Thrafnidiaeth Strategol.
Y nod yn y pen draw yw cynyddu gwerth economi Gogledd Cymru o £13.6 biliwn yn 2016 i £26 biliwn erbyn 2035.
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint a’r Prif Weithredwr Arweiniol ar gyfer Cynnig Twf Gogledd Cymru, mai pwrpas y gynhadledd oedd darparu gwybodaeth, annog a pharatoi’r holl bartneriaid cyn trafodaethau pellach yn y misoedd sydd i ddod i sicrhau cyllid ychwanegol a pharatoi’r sylfeini ar gyfer y gwaith caled sydd o’n blaenau.
Dim ond y dechrau
Adleisiwyd y geiriau hynny gan y Cyng Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a ddiolchodd i bawb a oedd yn bresennol am uno y tu ôl i’r weledigaeth “un Gogledd Cymru” ar gyfer ffyniant economaidd.
“Mae’n bwysig cofio pam i ni ddechrau ar y daith hon,” meddai’r Cyng Shotton.
“Dechreuodd gyda chydnabod dau beth allweddol a oedd wedi’n dal yn ôl am rhy hir o lawer; diffyg cydlyniant ar draws ein siroedd a’n hawdurdodau, a diffyg dylanwad a chynrychiolaeth yng Nghaerdydd a Llundain.
“Mewn cyfnod byr, rydym wedi newid hynny drwy ddod at ein gilydd gyda’r dull newydd, unigryw ac arloesol hwn, a dim ond y dechrau yw’r Cynnig Twf. Mae’n sylfaen i ni adeiladu arno, ond dim ond dechrau ar beth allwn ei gyflawni gyda’n gilydd yw hyn”.
Ychwanegodd: “Roedd y cyhoeddiad gan y Canghellor yn Natganiad y Gyllideb yn gadarnhaol a gall ein helpu i symud o ddatblygu i ddarparu.
“Mae’r rhanbarth £120miliwn yn well yr wythnos hon na’r wythnos diwethaf ac mae hynny oherwydd ein bod wedi dod at ein gilydd fel un – ni fyddai wedi digwydd fel arall.
“Daw cryfder o undod ac undod yw cryfder, felly byddwn yn parhau i symud ymlaen mewn trafodaethau gyda llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru a’n partneriaid i sicrhau’r Fargen Dwf orau bosibl i Ogledd Cymru.”
Darganfyddwch mwy a nodwch eich cefnogaeth i’r Cynnig Twf Gogledd Cymru.