Yn ystod y cyfnod clo dechreuodd pobl ar draws Wrecsam wneud pethau’n wahanol ac yma yng Nghyngor Wrecsam, fe weithiodd timau mewn partneriaeth gyda’r gwasanaethau gwirfoddol i sicrhau nad oedd unrhyw blentyn yn llwgu.
Ar ôl cynnal ymgynghoriad gyda phlant, fe enwyd y cynllun yn ‘At the End of the Rainbow’, ac fe hyd yn oed ddyluniodd un ohonynt logo gwych 🙂
Mae 3 Tîm o staff yn rhedeg cynllun Bagiau Bwyd AER; Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (gyda chefnogaeth gan staff Gwasanaethau Plant), Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol a staff a gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Cychwynnodd y cynllun ddechrau mis Mai a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Awst. Yn ogystal â bagiau bwyd, derbyniodd teuluoedd fagiau crefft a gwybodaeth am ffynonellau o gymorth a chyngor os byddant ei angen.
220 bag bwyd yr wythnos i deuluoedd
Mae’r cynllun bellach yn danfon tua 220 bag bwyd yr wythnos i deuluoedd sydd eu hangen ar draws Wrecsam, gyda phob bag yn cynnwys digon o fwyd i un plentyn oedran ysgol i gael brecwast a chinio am 5 diwrnod.
Mae Timau AER wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan deuluoedd am y bagiau bwyd, yn cynnwys y sylwadau canlynol:
“Mae’r bwyd yn flasus a dyma’r bara gorau erioed. Gwerthfawrogir y pecyn yn fawr iawn.”
“Roedd yn hyfryd ac yn help mawr. Dim gwastraff o gwbl”. Roedd mam yn ddiolchgar a chadarnhaol iawn, ac fe ddiolchodd i ni.
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Roedd hi’n bwysig iawn bod plant diamddiffyn ar draws Wrecsam yn parhau i gael digon o fwyd i’w cadw nhw’n iach ac i leddfu straen ar eu rhieni. Fe ddylai’r timau AER fod yn falch iawn o’r hyn maent wedi’i wneud ac yn parhau i gyflawni. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith partneriaeth llwyddiannus yma i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol yma i’n plant a’u rhieni.”
YMGEISIWCH RŴAN