Bydd gorsaf fysiau Wrecsam yn derbyn gwaith adnewyddu ac atgyweirio hanfodol o bron i £250,000 yn dilyn cymeradwyaeth grant gan Gronfa Rhwydwaith Cludiant Lleol Llywodraeth Cymru.
Ymysg nifer o welliannau a gynlluniwyd, gall defnyddwyr yr orsaf fysiau edrych ymlaen at doiledau wedi’u hadnewyddu, biniau newydd, sgriniau gwybodaeth amser real a gwaith glanhau allanol. Mae’r orsaf yn un o’r prysuraf yng Nghymru gyda dros 168,000 o deithiau bws yn gadael yr orsaf a bydd y gwelliannau hyn yn cyfrannu at sicrhau bod yr orsaf yn parhau i ddiwallu anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid.
“Newyddion Rhagorol”
hyn yn newyddion rhagorol ac yn dilyn ymlaen o’r gwaith y llynedd i wella’r goleuadau ac ail agor y Swyddfa Wybodaeth. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cydnabyddiaeth a’u cefnogaeth ar gyfer un o’r gorsafoedd bysiau prysuraf yng Nghymru.
“Er gwaethaf y cyfnod heriol sydd ohoni ar gyfer y diwydiant bws lleol, mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ymrwymiad a chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam at bwysigrwydd y gwasanaethau bysiau lleol ar gyfer pobl Wrecsam. Rwy’n credu y bydd defnyddwyr a gweithredwyr bysiau yn croesawu’r gwelliannau i adnewyddu a moderneiddio”.
Gallwch ddarllen am agoriad y Swyddfa Wybodaeth yma:
Yn ychwanegol i’r gwaith ar ran ymelwyr, bydd hefyd gwaith atgyweirio ac ailwampio i gyfleusterau staff ac ardaloedd mynediad.
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN