Awdur: Sara Arkle

  • Rhieni! Darganfyddwch ffyrdd i ddiddanu’ch plant am ddim

    Rhieni! Darganfyddwch ffyrdd i ddiddanu’ch plant am ddim

    Ydych chi’n methu â gwybod beth i’w wneud gyda’ch babanod a phlant bach yn ystod tymhorau’r ysgol neu efallai yr hoffech i’ch plentyn dreulio llai o amser o flaen y sgrin ar ôl ysgol? Mae gan eich llyfrgell leol ddigonedd o weithgareddau i gadw plant o bob oed yn ddiddig!

    O sesiynau crefft i glwb lego, dyma sut y gallwch chi a’ch plentyn fanteisio ar eich llyfrgell leol.

    Babanod a phlant bach

    Amser Stori a Rhigymau

    Beth? Gall rhieni, gofalwyr a phlant o dan 5 oed ddod draw i fwynhau straeon, caneuon a rhigymau.

    Pryd a Ble?

    • Llyfrgell y Waun bob dydd Gwener i blant rhwng 0-5 oed 3.30-4.00
    • Llyfrgell Rhiwabon bob dydd Mawrth i blant rhwng 0-3 oed 2.00 – 2.45
    • Llyfrgell Wrecsam bob dydd Mawrth i blant rhwng 0-5 oed 2.00-2.30

    Sesiynau Stori a Chân Dwyieithog

    Beth? Addas i blant rhwng 0-5 oed, ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd, rhieni di-Gymraeg a siaradwyr rhugl.

    Pryd a Ble?

    • Llyfrgell Wrecsam bob bore Mercher rhwng 10.00-10.30
    • Llyfrgell Rhos unwaith y mis ar ddydd Mercher rhwng 2.00-3.00

    Iaith a Chwarae Chatterbox

    Beth? Mae Iaith a Chwarae Chatterbox yn sesiynau am ddim ar gyfer rhieni a phlant rhwng 0-3 oed i gael hwyl, rhannu straeon, sgwrsio, chwarae a chanu caneuon.

    Pryd a Ble?

    • Llyfrgell Brynteg bob dydd Gwener yn ystod y tymor, 1.00-2.15
    • Llyfrgell Gwersyllt bob dydd Mercher yn ystod y tymor, 10.00-11.15
    • Llyfrgell Cefn Mawr bob dydd Iau yn ystod y tymor, 1.00-2.15

    Peidiwch ag anghofio os ydych yn grŵp chwarae, yn feithrinfa, grŵp rhiant a phlentyn neu’n warchodwr plant gallwch fenthyg casgliad o lyfrau i’w defnyddio gyda phlant yn eich gofal. Cysylltwch â’ch llyfrgell leol. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau we.

    DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

    Plant oed ysgol

    Ffrindiau llyfrau

    Beth? Os ydych rhwng 5-11 oed, gallwch gymryd rhan yn y grŵp darllen iau, ffrindiau llyfrau, lle byddwch yn trafod y llyfr diweddaraf, gwneud posau, croeseiriau a lliwio.

    Pryd a Ble? Llyfrgell Llai bob tair wythnos ar ddydd Gwener 3.30 – 4.30 yn ystod y tymor yn unig.

    Clwb Lego

    Beth? Mae’r clwb Lego yma’n cael ei gynnal bob wythnos ar gyfer plant 4+ oed sy’n hoffi adeiladu a chreu pethau o Lego.

    Pryd a Ble?  Llyfrgell Cefn Mawr, bob dydd Iau 3.30-4.30

    Gwener Gludo a Glynu

    Beth? Sesiwn grefft i blant o dan 8 oed

    Pryd a Ble?

    • Llyfrgell y Waun ar ddydd Gwener olaf y Mis, 4.00 – 4.30
    • Llyfrgell Wrecsam, bob pedair wythnos o 28 Ebrill, 10.00-11.30

    Clwb Plant

    Beth? Crefftau, lliwio a phosau ar gyfer plant rhwng 3-8 oed. Rhaid bod yng nghwmni oedolyn.

    Pryd a Ble? Llyfrgell Coedpoeth ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis, yn ystod y tymor yn unig, 3.30 – 4.15

    Clwb 4 o’r gloch

    Beth? Straeon, crefftau, posau, gemau a gweithgareddau Lego ar gyfer plant rhwng 5-10 oed. Rhaid bod yng nghwmni oedolyn.

    Pryd a Ble?  Llyfrgell Rhiwabon bob pythefnos ar ddydd Gwener 4.00-5.00

    Tra byddwch yn mwynhau mymryn o lonydd, beth am gael golwg ar ein casgliad o lyfrau rhianta.

    Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

  • 5 ffordd i cadw ar y cyriad

    5 ffordd i cadw ar y cyriad

    Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn ceisio dilyn tueddiadau ar-lein diweddaraf, fel ei bod hi’n haws i chi gadw mewn cysylltiad â ni.

    Dyma ambell ddull i chi weld newyddion diweddaraf y cyngor ar-lein.

    Blog Newyddion Cyngor Wrecsam

    Dyma ni! ‘Does dim angen i chi chwilio dim pellach na’n blog newyddion ar gyfer holl newyddion diweddaraf y Cyngor. Mae’n llawn dop o’n storïau diweddaraf, o wybodaeth am eich treth cyngor, i ddod o hyd i bethau hwyl i’w gwneud yn ystod gwyliau ysgol. Ers ei lansio ym mis Gorffennaf y llynedd, mae’r blog wedi’i ddarllen dros 200,000 o weithiau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn ôl i ddarllen rhagor.

    Twitter

    Darllenwch ein negeseuon 280 o arwyddnodau sy’n llawn gwybodaeth gyfoes ddefnyddiol, o newyddion hanfodol, swyddi diweddaraf, i storïau diddorol ledled y sir.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Facebook

    Ydych chi wedi hoffi ein tudalen Facebook eto? Ymunwch â’r 8,000+ o bobl sy’n gweld newyddion diweddaraf y cyngor wrth sgrolio trwy eu ffrwd newyddion.

    Snapchat

    Snapchat; yr aelod fwyaf newydd yn ein teulu cyfryngau cymdeithasol – yr ap cyfryngau cymdeithasol sy’n dangos lluniau a fideos sydyn o beth sy’n digwydd yn Wrecsam a’r cyffiniau. Os mae hi’n well gennych chi weld eich newyddion, yna dyma’r peth gorau i chi.

    Fy Niweddariadau

    Derbyniwch yr holl wybodaeth rydych chi ei hangen i’ch blwch e-bost. Efallai hoffech chi gael eich atgoffa am eich biniau neu dderbyn diweddariadau am dywydd garw? Tanysgrifiwch i’n gwasanaeth diweddariadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

    Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Ydych chi’n arweinydd rhagorol gydag arbenigedd mewn TGCh?

    Ydych chi’n arweinydd rhagorol gydag arbenigedd mewn TGCh?

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.

    Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Seilwaith profiadol i ymuno â’n tîm TGCh aml-fedrus.

    Beth allwn ni ei wneud i chi?

    Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm ag ystod o sgiliau a fydd yn ail-lunio’r gwasanaeth ar gyfer ein gweithwyr a’n cwsmeriaid dros y blynyddoedd nesaf.

    Ychwanegwch at eich gyrfa a meithrin doniau newydd mewn amgylchedd sydd yn ddigon mawr i gynnig twf gyrfaol ond yn ddigon bach i ddatblygu sgiliau unigol.

    FEDRAI DDIM AROS, CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS.

    Beth allwch chi ei wneud i ni?

    Ydych chi’n gallu arddangos gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn amgylchedd TGCh prysur?

    Ochr yn ochr â’r Arweinydd TGCh, byddwch yn penderfynu sut y caiff seilwaith ei ddylunio a’i ddarparu, ac yn rheoli’r adnoddau a’r staff ar y tîm seilwaith TGCh yn unol â blaenoriaethau trawsnewid a Strategaethau TGCh y Cyngor, gan gynnwys mudiad cloud.

    Mae ein tîm yn cefnogi ystod eang o dechnolegau, a byddai profiad o reoli Firewall, Microsoft Server, Cisco WAN, LAN a thechnolegau Di-wifr yn fanteisiol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â gwybodaeth am VMWare a datrysiadau diogelwch eraill.

    Rydym eich angen chi!

    Os ydych chi yn arweinydd rhagorol gydag arbenigedd mewn TGCh, mae arnom angen chi.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=FF461279-E821-4F5E-89CCF43D0BAA3887″]YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO[/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • Oes gennych chi gwestiwn am Dreth y Cyngor?

    Oes gennych chi gwestiwn am Dreth y Cyngor?

    Bydd eich Bil Treth y Cyngor ar gyfer 2018/2019 yn cael ei anfon atoch chi cyn bo hir, felly rydym ni wedi llunio ychydig o atebion i gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml am Dreth y Cyngor.

    Pam bod fy mil yn dangos balans a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol?

    Wyddoch chi fod y Cyngor yn cyhoeddi dros 60,000 o filiau ym mis Mawrth yn unig? Mae’n rhaid eu cynhyrchu’n fuan er mwyn i ni eu hanfon atoch chi ar amser. Eleni cafodd eich bil ei argraffu ar 25 Chwefror 2018, felly ni fydd unrhyw daliad sydd wedi ei wneud ar ôl y dyddiad hwn yn ymddangos.

    Rydw i’n talu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol. Oes arnaf angen gwneud unrhyw beth

    Os ydych chi’n talu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol ni fydd yn rhaid i chi wneud unrhyw beth. Unwaith y sefydlir eich debyd uniongyrchol, ni fyddwn yn ei ganslo oni bai eich bod chi neu’ch banc yn gofyn i ni wneud hynny. Os ydych chi wedi anghofio sut rydych chi’n talu’ch bil, gallwch ganfod eich dull talu ar waelod eich bil ar yr ochr chwith.

    Pam bod fy mil yn cynnwys Premiwm Gwag o 50%?

    Fel nad ydym ni’n gweld eiddo yn mynd yn wag am beth amser rydym ni wedi cyflwyno premiwm ychwanegol o 50%, sy’n golygu bod eiddo sydd wedi bod yn wag (yn ôl ein cofnodion Treth y Cyngor) ers deuddeg mis a mwy yn destun premiwm Treth y Cyngor.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Rydw i’n symud tŷ, oes raid i mi roi gwybod i chi?

    Oes. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy’n effeithio ar faint o Dreth y Cyngor sy’n rhaid i chi ei dalu. Mae hyn yn cynnwys newid cyfeiriad, ond hefyd unrhyw wybodaeth a all effeithio ar ostyngiad neu eithriad rydych chi’n ei dderbyn ar hyn o bryd. Mae’r manylion cyswllt perthnasol ar gefn eich bil Treth y Cyngor.

    Fi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo, ydw i’n gymwys i gael gostyngiad?

    Ydych, os mai chi yw’r unig oedolyn yn yr eiddo mae gennych chi hawl derbyn gostyngiad person sengl o 25%. Os nad yw eich bil yn cynnwys y gostyngiad, cysylltwch ag Adain Treth y Cyngor yn defnyddio’r manylion cyswllt ar gefn eich bil.

    Mae fy mil yn dangos balans o ddim gan fy mod wedi fy eithrio oherwydd bod fy eiddo yn wag a heb ddodrefn neu’n cael ei atgyweirio. Fydd y balans yn aros yr un fath ar gyfer y flwyddyn gyfan?

    Nid o reidrwydd. Dim ond am 6 mis y caiff eithriadau i dai gwag a heb ddodrefn eu rhoi, ac eithriadau i dai gaiff eu hatgyweirio am 12 mis. Felly unwaith y mae’r cyfnod eithrio wedi dirwyn i ben, byddwch yn derbyn bil wedi ei addasu.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/assets/pdfs/financial/ddform_business_rates_w.pdf”] TALU TRETH Y CYNGOR DRWY DDEBYD UNIONGYRCHOL[/button]

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined”https://www.civicaepay.co.uk/WREXHAMESTORE/ESTORE/welsh/catalog/index?fundCode=25″] TALU TRETH Y CYNGOR AR-LEIN[/button]

  • Gwnewch wahaniaeth go iawn i fywyd plentyn

    Gwnewch wahaniaeth go iawn i fywyd plentyn

    Gall gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Plant fod yn werth chweil ac mae llawer o fanteision o wneud hefyd.

    Gall gweithiwr cymdeithasol wneud gwahaniaeth go iawn i unigolion a’u teuluoedd, gan eu helpu drwy’r cyfnodau anoddaf a, thrwy sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag niwed, newid eu bywydau.

    Mae llais y plentyn yn greiddiol i bopeth yr ydym yn ei wneud

    Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym yn falch o fod â thîm lle mae llais y plentyn yn greiddiol i bopeth yr ydym yn ei wneud gan arwain y ffordd yng Nghymru o ran datblygiad gwasanaethau integredig ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

    HOFFWN GWNEUD GWAHANIAETH – CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS

    Manteisiwch ar y cyfle i fod yn rhan o’r tîm rhagorol hwn. Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol i gydlynu ymateb rhyngasiantaethol effeithiol i blant sydd angen eu diogelu a’r rhai sy’n derbyn gofal.

    Rydym eich angen chi

    Ydych chi yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, profiad wedi ei brofi o weithio fel rhan o dîm ac o weithio gyda phlant, yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o brosesau a chodau ymarfer proffesiynol gwaith cymdeithasol? Yna rydym eich angen chi.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/council_w/social_services/social_work_careers.htm”]YDW, RYDW I EISIAU GWNEUD GWAHANIAETH[/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • Gyrfa mewn TGCh – Cwrdd â’n Rheolwr Gwasanaethau Technegol TGCh

    Gyrfa mewn TGCh – Cwrdd â’n Rheolwr Gwasanaethau Technegol TGCh

    Wrth i chi ystyried gyrfa ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, efallai mai gweithio i gwmni yn ‘Sillicon Valley’ neu gylchfan silicon Llundain yw’r freuddwyd. Ond efallai nad ydych yn ymwybodol o’r yrfa TGCh lwyddiannus sydd yn disgwyl amdanoch ar garreg eich drws.
    Photo of Germaine Hughes
    Gofynnom i Germaine Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Technegol TGCh Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fynegi barn am ei gwaith yn yr Adran TGCh a pha mor werthfawr yw’r gwaith hwnnw.

    Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am weithio yn yr Adran TGCh?
    Rwy’n mwynhau gweithio yn yr Adran TGCh, yn enwedig mewn amgylchedd menter mor fawr, rwyf yn dysgu rhywbeth newydd yn gyson ac mae ystod eang o dechnolegau ar gael er mwyn dysgu a datblygu eich gwybodaeth.

    Gan ein bod yn dîm bychan, mae’r gallu gennym i weithio ar draws yr holl ddisgyblaethau heb gael ein gosod mewn un maes technoleg penodol.

    Mae’r adran TGCh hefyd yn alluogwr allweddol o ran y gwaith ail-lunio sy’n cael ei wneud o fewn yr Awdurdod. Does dim yn rhoi mwy o foddhad na gweld y gwaith technegol rydym yn ei wneud yn gwella ein gwasanaethau rheng flaen gan eu gwneud yn fwy effeithlon wrth ddarparu ar gyfer trigolion Wrecsam.

    Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n awyddus i weithio ym maes TGCh?
    Mae llawer o swyddi gwahanol o fewn yr Adran TGCh, a phob un swydd yn gofyn am gyfres o sgiliau gwahanol. Nid oes rhaid i chi o reidrwydd feddu ar yr holl sgiliau TGCh hyn yn barod, dim ond i chi ddangos eich bod yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu.

    BASWN I’N CARU GWEITHIO GYDA GERMAINE, CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS

    Beth yw dy hoff beth am weithio i Gyngor Wrecsam?
    Rwy’n mwynhau gweithio mewn sefydliad mor wahanol sydd â gwasanaeth cwsmer wrth wraidd pob dim y mae’n ei wneud.

    Ar lefel bersonol, rwy’n hoff iawn o oriau gweithio hyblyg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ynghyd â’r ffaith fy mod yn ddigon ffodus i fod mewn swydd sy’n caniatáu i mi weithio mewn ffordd hyblyg ac oddi cartref o bryd i’w gilydd.

    Fel mam, mae hyn yn golygu fy mod yn treulio llai o amser yn teithio bob dydd a fy mod yn gallu gorffen gweithio’n gynnar er mwyn mynychu rhai digwyddiadau, megis noson rieni a sioe Nadolig yr ysgol, pethau na fyddwn wedi gallu eu gwneud mewn swydd 9-5, sydd yn rhoi cydbwysedd da i mi rhwng fy mywyd gartref a’r gwaith.

    Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am fyw yng Ngogledd Cymru?
    Rwy’n byw ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, sydd tua 10 milltir o Wrecsam ac felly mae cymudo’n hawdd. Rwyf yn hoff iawn o’r ffaith ein bod yn cael y gorau o ddau fyd – mae gennym ddinasoedd, megis Manceinion a Lerpwl, ar garreg ein drws yn ogystal â mynyddoedd Eryri ac arfordir Gogledd Cymru.

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.

    Swnio’n dda? Rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol ar hyn o bryd i ymuno â’r tîm TGCh yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ydych chi’n ateb y gofynion?

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=FF461279-E821-4F5E-89CCF43D0BAA3887″] YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO![/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://news.wrexham.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • 5 rheswm pam y dylech weithio i Gyngor Wrecsam

    5 rheswm pam y dylech weithio i Gyngor Wrecsam

    Nid oes gan lywodraeth leol yr enw da mwyaf hudol fel gweithle, ond gall golwg fod yn dwyllodrus a gall gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gynnig mwy o fuddion na fyddech yn feddwl.

    1. Torri lawr ar deithio

    Wedi cael digon ar eistedd mewn traffig oriau brys? Wedi disbyddu eich llyfrgell podlediad? Mae gweithio’n lleol yn golygu nad ydych yn gorfod gwastraffu amser gwerthfawr yn teithio yn ôl ac ymlaen o’r gwaith.

    Trwy weithio’n agosach at adref gallwch adael yn hwyrach i fynd i’r gwaith, bod adref mewn pryd i roi’r plant yn eu gwelyau, neu yn ôl yn eich pyjamas yn gynt.   Gallech hyd yn oed ymweld â’r deintydd yn eich awr ginio!

    1. Manteision y swydd

    Mae llywodraeth leol yn cynnig pensiwn a gwyliau hael ac nid yw CBSW ddim gwahanol gan gynnig cyflogau cystadleuol ynghyd â chynllun pensiwn llywodraeth leol.

    Gallech hefyd fanteisio ar ostyngiad mewn pris aelodaeth mewn canolfannau hamdden, y cynllun beicio i’r gwaith a gostyngiadau mewn amrywiol sefydliadau.
    Snapchat

    1. Dywedwch ffarwel wrth 9 tan 5

    Gyda Chyngor Wrecsam gallwch weithio oriau hyblyg, felly gallwch ddweud ffarwel wrth 9 tan 5 a mwynhau’r cydbwysedd bywyd/gwaith perffaith.

    1. Datblygwch eich gyrfa a meithrin sgiliau newydd

    Mae Cyngor Wrecsam yn cymryd hyfforddiant a datblygiad parhaus o ddifrif.  Mae’r Cyngor yn ddigon mawr i gynnig twf gyrfa ac yn ddigon bach i ddatblygu sgiliau unigol.

    Cefnogir pob gweithiwr i ddatblygu eu sgiliau, a all gynnwys dilyn cymwysterau a hyfforddiant pellach.

    1. Gwneud gwahaniaeth

    Gweithio mewn swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned eich hun.  Mae gweithio fel gwas cyhoeddus yn golygu eich bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella eich cymuned leol.

    Gall olygu eich bod yn teimlo’n agosach at eich amgylchedd a buddsoddi eich oriau gwaith i wneud newidiadau pendant.

    Swnio’n dda? Rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol ar hyn o bryd i ymuno â’r tîm TGCh yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.   Ydych chi’n ateb y gofynion?

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=FF461279-E821-4F5E-89CCF43D0BAA3887″] YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO![/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://news.wrexham.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • Mae ein gwasanaeth TGCh eich angen chi!

    Mae ein gwasanaeth TGCh eich angen chi!

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.

    Wedi cael digon o gontractau tymor byr? Wedi colli diddordeb yn eich swydd bresennol?

    Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol i ymuno’r tîm isadeiledd TGCh talentog.

    Beth allwn ni ei wneud i chi?

    Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm ag ystod o sgiliau a fydd yn ail-lunio’r gwasanaeth ar gyfer ein gweithwyr a’n cwsmeriaid dros y blynyddoedd nesaf.

    Ychwanegwch at eich gyrfa a meithrin doniau newydd mewn amgylchedd sydd yn ddigon mawr i gynnig twf gyrfaol ond yn ddigon bach i ddatblygu sgiliau unigol.

    FEDRAI DDIM AROS, CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS.

    Beth allwch chi ei wneud i ni?

    Ydych chi’n gallu arddangos gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn amgylchedd TGCh prysur?

    Byddwch yn darparu, cefnogi a chynnal cynnyrch a gwasanaethau gwahanol sydd ar y cyd yn ffurfio gwasanaeth cyfrifiadurol dibynadwy a chost effeithiol i gefnogi anghenion busnes yr awdurdod.

    Er y cefnogir ystod eang o dechnolegau gan y tîm, byddai profiad o ddefnyddio technoleg Cisco, Rhwydwaith Ardal Eang, Rhwydwaith Ardal Leol a Di-wifr yn fanteisiol yn ogystal â gwybodaeth am Firewall, UTM a datrysiadau diogelwch eraill.

    Rydym eich angen chi!

    Os y gallwch ddarparu gwasanaethau cynnal o ansawdd a gyda lefel uchel o arloesi a chreadigrwydd wrth ddatrys problemau technegol neu ddatblygu atebion yna rydym eich hangen chi.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=B38FFAF4-F73B-8813-AB9420BE21DD6105″] YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO![/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://news.wrexham.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]