Awdur: Aled Canter

  • Gofodau Arddangos Am Ddim i Unigolion â Meddyliau Creadigol

    Gofodau Arddangos Am Ddim i Unigolion â Meddyliau Creadigol

    Ydych chi’n artist, ffotograffydd neu’n grefftwr lleol sydd yn chwilio am gyfle i arddangos eich gwaith?

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Yna does dim rhaid i chi edrych ymhellach na’r llyfrgelloedd lleol yn ardal Wrecsam gan fod gofodau arddangos ar gael mewn tri ohonynt, sef Y Waun, Rhiwabon a Wrecsam y gallwch eu defnyddio am ddim.

    Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi rhoi eich gwaith i fyny a’u tynnu i lawr eto pan fo’r arddangosfa ar ben.

    Os ydi hyn yn swnio’n gyfle delfrydol ar eich cyfer chi, ewch ati i fanteisio ar y cyfle heddiw trwy gysylltu ag un o’n llyfrgelloedd yn uniongyrchol.

    Mae’r manylion cyswllt ar gael yma .

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Tŷ Pawb i gynnal Ffair Recordiau

    Tŷ Pawb i gynnal Ffair Recordiau

    Os ydych yn casglu recordiau neu’n hoffi gwrando ar finyl, yna dewch i Dŷ Pawb ddydd Sadwrn, 11 Mai rhwng 10:00 a 4:00.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Mae Tŷ Pawb yn cydweithio â Vod Music er mwyn cynnal ffair recordiau am ddim gyda dros 30 o ddelwyr recordiau gorau’r DU.

    Er mwyn ychwanegu at yr awyrgylch bydd cerddoriaeth fyw a setiau DJ gan Halcyons Dreams.

    Cynhaliwyd ffair recordiau gyntaf Tŷ Pawb fis Tachwedd diwethaf, lle daeth dros 700 o ymwelwyr ar y diwrnod cyntaf. Dywedodd Colin o VOD Music “Rydym yn trefnu ein holl ddigwyddiadau yn lleol ac roedd i’w weld yn syniad gwych dychwelyd ar ôl i Dŷ Pawb agor, roeddem am gefnogi’r lleoliad sydd â photensial anhygoel a digon o le ar gyfer Ffair Recordiau.”

    Os ydych chi awydd dod i’r digwyddiad hwn, rhowch y dyddiad yn eich dyddiadau – Dydd Sadwrn, 11 Mai rhwng 11am a 4pm.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Un o Brif Awduron Rhyngwladol yn Ymweld â Wrecsam

    Un o Brif Awduron Rhyngwladol yn Ymweld â Wrecsam

    Os ydych chi’n mwynhau clywed sut mae pobl wedi dod yn llwyddiannus ac wedi dod yn awdur llyfrau rhyngwladol, mae cyfle ddydd Sadwrn, 27 Ebrill am 4:30pm yn llyfrgell Wrecsam.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Bydd Amanda Prowse, panelydd rheolaidd ar y rhaglen deledu poblogaidd ‘Jeremy Vine TV show’, sydd â chefnogaeth y cyflwynydd CNN Piers Morgan a chyflwynydd ITV Charlotte Hawkins, yn datgelu ei chyfrinachau am ei llwybr i ddod yn awdur cyhoeddedig llwyddiannus a sut i lwyddo yn y farchnad lyfrau fodern.

    Bydd Amanda yn trafod rhinweddau cymharu cyhoeddiadau traddodiadol ac indie a’r defnydd o gyhoeddiadau digidol heddiw.

    Os oes gennych chi ddiddordeb yn y digwyddiad hwn, dewch draw i ddarganfod y cyfrinachau sydd gan Amanda Prowse.

    Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn £8, a gallir eu prynu yn llyfrgell Wrecsam.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Dewch i Weld y Cynnyrch Lleol Unigryw yn Siop/Shop Tŷ Pawb

    Dewch i Weld y Cynnyrch Lleol Unigryw yn Siop/Shop Tŷ Pawb

    Ydych chi’n pendroni beth i’w gael fel yr anrheg berffaith ar gyfer rhywun neu’n chwilio am rywbeth gwahanol ar gyfer eich cartref? Beth am ddod draw i siop Tŷ Pawb?

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Mae Siop/Shop yn siop oriel unigryw sy’n gwerthu dewis amrywiol o gynnyrch cyfoes gan wneuthurwyr ac artistiaid annibynnol. Mae’r cynnyrch unigryw ar gael yn amrywio o emwaith hardd gan Angela Evans o Ogledd Cymru a’r gwneuthurwr gemwaith lleol o Wrecsam, Sam Belsham, i decstilau a dylunio, cynnyrch i’r cartref, ynghyd â dewis eclectig o gardiau cyfarch, cylchgronau a llyfrau.

    Mae Siop/Shop hefyd yn meithrin artistiaid newydd drwy ein Cynllun Mentora ac yn hyrwyddo ymarferwyr sefydledig o Gymru a thu hwnt. Mae rhai enwau o’r gorffennol sydd wedi elwa o’r cynllun yn cynnwys Sara Lois, Sondergard, Ark, Jennie Jackson, Tatty Devine, Jenny Murray, Melin Tregwynt ac Angie Lewin.

    “Ategu at yr hyn mae Tŷ Pawb yn ei gynnig”

    Ers iddo agor, mae’r Siop/Shop wedi comisiynu chwe artist i ddathlu Wrecsam, gan gynnwys lansio Tŷ Pawb dros 12 mis yn ôl. Maent hefyd yn trefnu cyfleoedd i gyfarfod â’r artistiaid eu hunain mewn digwyddiadau “cyfarfod y gwneuthurwyr” sy’n cyd-fynd â’r arddangosfeydd.

    Mae Siop//Shop yn “ategu at yr hyn mae Tŷ Pawb yn ei gynnig ac esiampl ardderchog o hyn yw’r golau Hippodrome a gafodd ei symud i Arcêd y De ar ôl cael ei adfer. Cyn hynny, roedd yn rhan ganolog o’r hen Theatr Hippodrome, ac fe gafodd ei achub gan grŵp Hanes Wrecsam.

    Gweithiodd y dylunydd Tim Denton drwy’r Prosiect ‘Designer Maker’ – cydweithrediad rhwng Tŷ Pawb a CAIS drwy Cyfle Cymru sy’n mentora ac yn rhoi profiad o weithio ar gyfer pobl gyda phrofiad o gamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl – i wneud fersiwn pwrpasol o’r lamp gan ddefnyddio dyluniad Sgandinafaidd cyfoes a thechnegau plygu â stêm. Mae’r lampau yn hynod o boblogaidd ac mae rhestr aros amdanynt tra bod mwy yn cael eu cynhyrchu!

    Mae mwy o wybodaeth am y Lamp Hippodrome yn yr erthygl isod:

    Glamour of Hippodrome light comes to Tŷ Pawb

    Mae’r staff yn Nhŷ Pawb yn dweud:

    “Mae Siop//Shop yn rhoi cyfle i fenter gymdeithasol ddod yn fyw”.

    Mae staff yn Siop/Shop hefyd yn dweud bod cwsmeriaid diddorol yn ymweld â’r siop,

    Mae staff siop Tŷ Pawb yn croesawu unrhyw un i ddod i weld y siop a’r cynnyrch unigryw sydd ar gael i’r cyhoedd.

    Oriau Agor
    Dydd Llun – Dydd Sadwrn 09:00-17:30
    Dydd Sul/Gwyliau Banc 10:00-16:00

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Dewch i ddysgu dros baned o goffi

    Dewch i ddysgu dros baned o goffi

    Os ydych yn hoffi dysgu ac yfed coffi ar yr un pryd, mae gan Tŷ Pawb y peth i chi.

    Ddydd Gwener 19 Ebrill o 9:30am tan 11:30am, bydd Tŷ Pawb yn cynnal Coffi a Chrefft – digwyddiad poblogaidd sydd wedi cael ei fwynhau gan lawer yn ddiweddar.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Yn y digwyddiad y mis yma cewch gyfle i ddysgu sut i beintio ar jariau gwydr dal canhwyllau… a mwynhau taith o amgylch yr oriel gelf i weld pa ddeunyddiau sy’n cael eu defnyddio yn yr arddangosfeydd presennol.

    Mae’r digwyddiad yn costio £2 y pen yn unig ac yn cynnwys diod poeth i chi ei fwynhau.

    Os yw hyn yn swnio’n ddifyr i chi, dewch draw i ddysgu dros baned o goffi.

    Am fwy o wybodaeth e-bostiwch Tŷ Pawb.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Clwb Ffilmiau y Pasg i’r Teulu Cyfan eu mwynhau

    Clwb Ffilmiau y Pasg i’r Teulu Cyfan eu mwynhau

    Os ydych yn chwilio am rywbeth hwyliog i’r teulu ei wneud yn ystod gwyliau’r Pasg, yna Tŷ Pawb yw’r lle i chi.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Bob dydd Mercher bydd Tŷ Pawb yn cynnal clwb ffilmiau hwyliog i’r teulu cyfan ar thema’r Pasg.

    Mae clwb ffilmiau’r Pasg yn dechrau ar 17 Ebrill am 2pm ac yn costio £4 y pen. Bydd clwb ffilmiau’r Pasg yn dangos y ffefryn deuluol “Peter Rabbit.”. Yr wythnos wedyn, ddydd Mercher 24 Ebrill am 2pm, bydd clwb ffilmiau’r Pasg yn dangos ffefryn deuluol arall sef “Tangled”.

    Ydych chi’n meddwl y byddai’ch teulu chi yn mwynhau’r digwyddiad hwn? Os felly, dewch draw i fwynhau hwyl gwyliau’r Pasg!

    Sign up to receive regular news and updates from Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_112 “] GET UPDATES FROM TŶ PAWB[/button]

  • Croeso’n ôl i Alan Johnson

    Croeso’n ôl i Alan Johnson

    Bydd Gŵyl Geiriau Wrecsam yn estyn croeso cynnes yn ôl i’r cyn-weinidog Alan Johnson, a fydd yn dod i Ganolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyll ddydd Sadwrn 4 Mai am 7pm.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Bydd yn hyrwyddo ei lyfr diweddaraf, ‘In My Life: A Music Memoir’. Mae’r llyfr yn mynd â darllenwyr ar daith gerddorol ei fywyd ac yn disgrifio sut mae cerddoriaeth wedi newid a siapio ei fywyd ers ei blentyndod.

    Hoffech chi ddod i’r digwyddiad yma?

    Os felly, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.wrexhamcarnivalofwords.com.

    Mae’r tocynnau yn costio £8 ac maen nhw ar gael yn Llyfrgell Wrecsam.

    Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Sgyrsiau Rhyngweithiol JBerg Films yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam

    Sgyrsiau Rhyngweithiol JBerg Films yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam

    Bydd y cynhyrchydd creadigol o fri, Julia Berg o JBerg Films, yn cyflwyno sgwrs ryngweithiol yng Ngŵyl Geiriau Wrecsam ddydd Sadwrn 27 Ebrill am 10am yn Llyfrgell Wrecsam.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB

    Yn ymuno â Julia Berg fydd y darlithydd gwyddor fforensig Amy Rattenbury “Sut i siapio syniad da am stori yn ffilm neu’n gyfred deledu” a’r awdur Laura Wilkinson “Ar ôl y Drafft Cyntaf – Sut i fireinio a siapio eich llawysgrif yn ffuglen gofiadwy”.

    Bydd pob sesiwn yn para hanner awr a bydd amser ar gyfer cwestiynau ar y diwedd. Bydd y sesiwn gyntaf am 10am ac yn cael ei chynnal gan Julia Berg. Bydd yr ail sesiwn am 12pm ac yn cael ei chynnal gan Amy Rattenbury, a bydd y sesiwn olaf yn nwylo Laura Wilkinson.

    Os hoffech chi ddod i’r digwyddiad yma, mae’r tocynnau yn £5 y sesiwn ac ar werth yn Llyfrgell Wrecsam.