Eleni mae Wythnos Derbyn Awtistiaeth yn cael ei chynnal o 27 Mawrth tan 2 Ebrill, ac fe’ch gwahoddir chi i’r Canolbwynt Lles yn Adeiladau’r Goron, Wrecsam, 27 Mawrth 11am-2pm, i ddechrau’r dathliadau.
Mae croeso i bawb alw heibio i’r digwyddiad hwn, sy’n cael ei gynnal gan ein Cefnogwyr Rhieni, i ddysgu mwy am awtistiaeth a gweithgareddau’r wythnos (ac i gael paned wrth gwrs).
Dechreuodd Wythnos Derbyn Awtistiaeth yn 2007 i geisio helpu pobl i ddeall awtistiaeth yn well ac i ddathlu cyflawniadau pobl ag awtistiaeth.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]