Gwyddwn, wrth i dywydd yr haf fynd yn boethach, mae nifer o bobl yn meddwl am gadw’n ffit – ac efallai eich bod yn un ohonynt.
Gyda hynny mewn golwg, bydd ein partneriaid o ‘Freedom Leisure’ – sy’n cynnal ein canolfannau hamdden a gweithgaredd yn Y Byd Dŵr, Y Waun, Gwyn Evans a Queensway, a phump canolfan aml-ddefnydd – yn lansio cynnig i helpu pobl fynd i’r afael â ffitrwydd yn ystod yr haf.
Paratoi at yr Haf
O 1 Gorffennaf, bydd holl gyfleusterau ‘Freedom Leisure’ yn cynnal ymgyrch flynyddol ffitrwydd, Heini ar Gyfer yr Haf am gyfnod cyfyngedig.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Yn ystod yr ymgyrch, bydd cyfle i chi fynd i’r pum canolfan hamdden a gweithgaredd, tri phwll nofio a mwy na 100 o ddosbarthiadau dros 30 diwrnod – am £25 yn unig.
A hyd yn oed gwell – bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer yr ymgyrch yn cael eu rhoi mewn raffl fawr i ennill mis ychwanegol ar y cynllun am ddim, gyda chwe enillwr yn cael eu dewis; felly mae hyd yn oed fyw o gymhelliad i gofrestru!
I weld y telerau ac amodau yn llawn, dilynwch y dolen hwn.
Pan mae’n dod i fyw yn iach, nid yw popeth yn gweithio i bawb – ac nid yw pawb yn chwilio am yr un canlyniadau.
Mae rhai pobl yn chwilio am y corff traeth delfrydol, mae eraill yn ceisio cynyddu màs y cyhyrau, ac mae gan rai agwedd penodol o’u hiechyd maent eisiau ei wella.
Ac mae nifer yn mwynhau’r egwyl o straen a phwysau bywyd bob dydd, trwy fynd i’r gampfa, i’r pwll neu fynychu dosbarth.
Dyna’r rheswm ein bod ni eisiau rhoi cyfle i chi gael blas ar amrywiaeth o bethau i weld beth sy’n gweithio i chi.
“Rhowch gynnig arni”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Gwyddwn fod nifer o bobl, am lawer o resymau, ddim yn hoff o fynd i’r gampfa neu gymryd rhan mewn unrhyw fath o ymdrech ffitrwydd wedi’i drefnu – er eu bod nhw’n awyddus i gadw’n ffit a chymryd rhan mewn ymarfer corff.
“Mae digonedd ar gael ar safleoedd ‘Freedom Leisure’, a hoffwn roi cyfle i bobl roi cynnig ar bethau gwahanol i weld beth sy’n gweithio iddyn nhw.
“Bydd yr ymgyrch Heiny ar Gyfer yr Haf yn gyfle gwych iddyn nhw gael blas ar bethau gwahanol a gweld os oes unrhyw beth yr hoffent gymryd rhan ynddo yn y tymor hir – ac yn helpu tuag at gadw’n ffit ar gyfer yr haf.”
Dywedodd Andy Harris, Pennaeth Rhanbarthol am Freedom Leisure: “Nid yw’r trwydded hon yn bargen yn unig, at £25 am 30 diwrnod a ddefnydd diderfyn o’r pum ganolfan hamdden yn Wrecsam, ond mae’n pryniad haf rhagorol!
“Yn ystod yr haf, mae nifer o bobol yn penderfynu i ddechrau cadw’n heini, ac mae’r drwydded hon yn gynnig dda iddynt i ddechrau – ac mae 30 diwrnod yn fwy na ddigon o amser i newid eich corff a’ch lefelau heini mewn modd sylweddol. Mae myfyrwyr ddymchwyliedig hefyd yn gallu cymryd fantais o’r cynnig.”
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch Heini ar Gyfer yr Haf, cysylltwch â ni ar
Byd Dŵr: 01978 297300
Y Waun: 01691 778666
Gwilym Evans: 01978 269540
Queensway: 01978 355826
Neu ewch i’r wefan i gofrestru eich diddordeb.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB