Mae’r galw yn parhau am gyflymu’r arian sydd ar gael i dalu am waith trwsio ac adfer y B5605.
Mae pawb wedi eu syfrdanu gan effaith Storm Christoph ar y rhan hon o’r ffordd fis Ionawr diwethaf, ac mae’r ffordd yn dal ar gau gyda gwyriadau mewn lle a’r rheiny’n golygu ychwanegu hyd at 20 milltir at deithiau.
Rydym yn amcangyfrif y bydd costau’r trwsio dros £1M ond heb gymorth cyflym a sylweddol, ni fydd y Cyngor yn gallu dod o hyd i’r arian hwn i drwsio difrod y storm ac osgoi difrod gan stormydd y dyfodol.
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae hon yn ddolen allweddol sy’n cysylltu pentref y Waun a chymunedau o amgylch Pentre hyd at gymunedau Cefn Mawr a Rhosymedre.
“Dyma hefyd ydy’r llwybr argyfwng a ddefnyddir ar gyfer cau Cefnffordd yr A483 yn strategol, a hynny’n hanfodol ar gyfer rheoli digwyddiadau a chynnal a chadw’r A483.
“Rydym yn ystyried pob opsiwn er mwyn sicrhau’r arian fel y gellir gwneud y gwaith hanfodol yma cyn gynted â phosibl, ac rydym yn galw ar ein partneriaid i gyd i’n helpu gyda hyn fel y gall y ffordd ailagor cyn i unrhyw ddifrod pellach wneud y gwaith yn fwy anodd.”
Gallwch weld maint y difrod o’r lluniau drôn yma a dynnwyd yn gynharach eleni.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN