Mae’r band lleol Baby Brave yn un o blith dau o artistiaid o Gymru a fydd yn perfformio ar lwyfan FOCUS Cymru yng ngŵyl BreakOut West yn yr Yukon, Canada.
Y band Worldcub o Eryri sydd wedi’i ddethol i ymddangos yn yr ŵyl gyda Baby Brave. Mae’r daith yn medru digwydd diolch i gymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Sefydliad PRS, sy’n gweithio gyda’i gilydd i helpu artistiaid yng Nghymru fynd i berfformio dramor, gyda’r nod o ddatblygu gwaith rhyngwladol y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
BreakOut West yw’r ŵyl fwyaf blaenllaw i gyflwyno artistiaid newydd i’r diwydiant cerddoriaeth, ac fe’i trefnir gan Gynghrair Gerddorol Gorllewin Canada. Mae cynrychiolwyr y diwydiant cerddoriaeth yn dod o bedwar ban byd, a chynhelir yr ŵyl gyffrous mewn ardal wahanol o orllewin Canada bob blwyddyn. Cynhelir yr ŵyl eleni yn Whitehorse, Yukon ar 2-6 Hydref. Dros bedwar diwrnod bydd yno gynhadledd, tair noson o gerddoriaeth o arddulliau amrywiol, yn ogystal â brecwast hwyr ar gyfer Gwobrau Diwydiant Cerddoriaeth Gorllewin Canada, a derbyniad ar gyfer Gwobrau Cerddoriaeth Gorllewin Canada.
Mae Baby Brave yn fand indie cyffrous a ffurfiodd yn Wrecsam yn 2014. Ers hynny maent wedi datblygu eu sain yn rhywbeth trymach a mwy grymus, gan ddenu tyrfa dda o ddilynwyr a gigs mewn gwyliau a neuaddau ledled y Deyrnas Gyfunol, yn cefnogi bandiau fel Bo Ningen, Stealing Sheep a Slow Club.
Mae Worldcub yn fand indie seicadelig dwyieithog sy’n hannu o Eryri. Fe ryddhaon nhw eu halbym gyntaf eu hunain tua diwedd 2016, a chael sylw mewn cyhoeddiadau fel y Guardian a chylchgrawn UNCUT. Wrth berfformio yn BreakOut West bydd Worldcub hefyd yn cyfrannu at ddathliad o flwyddyn ieithoedd brodorol UNESCO a gynhelir yn yr ŵyl, ynghyd ag artistiaid eraill sy’n perfformio mewn amrywiaeth o ieithoedd brodorol.
Fe ddaeth y ddau fand i sylw trefnwyr BreakOut West yn sgil eu perfformiadau yn FOCUS Wales 2019. I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd rhyngwladol gyda FOCUS Wales, ewch i http://www.focuswales.com/rhyngwladol/.
Gall artistiaid ymhob cwr o’r byd wneud cais i berfformio yn FOCUS Wales 2020 drwy fynd i www.focuswales.com. Bu 240 o artistiaid yn perfformio yng ngŵyl 2019, yn dod o wledydd fel Canada, Corea, Ffrainc, Catalonia, yr Unol Daleithiau, Estonia, y Ffindir, Iwerddon a llawer iawn mwy. Roedd y bandiau’n cynnwys enwau fel Neck Deep, Cate Le Bon, Boy Azooga, the Lovely Eggs, Snapped Ankles, BC Camplight, 9bach a Kero Kero Bonito. Bydd yr hanner cant cyntaf o berfformwyr ar gyfer 2020 yn cael eu dewis fis Hydref, felly anogir artistiaid sy’n gobeithio perfformio yn yr ŵyl i gyflwyno eu ceisiadau yn gynnar.
Cynhelir FOCUS Wales 2020 ar 7, 8 a 9 Mai mewn naw o wahanol safleoedd yn Wrecsam, gogledd Cymru. Mae bandiau arddwrn ar gyfer y tri diwrnod llawn, gan gynnwys holl ddigwyddiadau FOCUS Wales, ar gael ar http://www.focuswales.com/tocynnau.
Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION