Mae Learn Cycling yn darparu hyfforddiant beicio mewn ysgolion yn Wrecsam a Sir y Fflint ac maent bellach yn chwilio am bobl frwdfrydig i gyflawni hyfforddiant ac ymuno â nhw i ddarparu eu cyrsiau hyfforddi beicio safonau cenedlaethol.
Maent yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsarïau ar gyfer unigolion lleol i gyflawni Gwobr Lefel 2 mewn Hyfforddi Beicio.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae’r cymhwyster yn golygu un wythnos o ddysgu ymarferol gyda rhai tasgau theori, ac asesiad ar ôl y cwrs unwaith fydd yr hyfforddai wedi darparu sesiynau ar y cyd â hyfforddwyr profiadol am gyfnod o amser.
“Mae gweithio fel hyfforddwr beicio yn hynod o foddhaus”
Dywedodd Mark Jones o Learn Cycling, “Rydym yn falch iawn o’r niferoedd sy’n derbyn hyfforddiant beicio mewn ysgolion yn Wrecsam a Sir y Fflint ers i ni ddechrau gweithio yn yr ardal. Mae nifer o gyrsiau wedi digwydd eisoes ac rydym wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol yn canmol yr effaith mae’r hyfforddiant yn ei gael.
“Rydym bellach yn chwilio am bobl sy’n caru beicio, yn angerddol am deithio llesol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc, er mwyn ein helpu ni i gyrraedd hyd yn oed fwy o ysgolion yn yr ardal.
“Mae gweithio fel hyfforddwr beicio yn hynod o foddhaus ac mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned.”
Mae Learn Cycling wedi bod yn darparu hyfforddiant beicio safonau cenedlaethol ar ran awdurdodau lleol ers Rhagfyr 2021, gyda grŵp profiadol a chymwys o hyfforddwyr llawrydd yn ymweld ag ysgolion i addysgu disgyblion sut i reoli beic a beicio’n ddiogel ac yn hyderus ar ffyrdd cyhoeddus.
Oes gennych chi ddiddordeb? Beth am fynd i’w gwefan i ddarganfod mwy, neu anfonwch e-bost at admin@learncycling.com.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH