Na nid camgymeriad yw hyn, addurn Nadolig ym mis Awst ydi hwn, – a hynny oherwydd mai un o brosiectau blynyddol mwyaf Europe Direct yw’r prosiect cyfnewid addurniadau Nadolig.
Rhagor am hynny mewn ychydig … yn y cyfamser, beth yw Europe Direct a beth y maent yn ei wneud?
Ers 2006, mae Europe Direct (wedi’i leoli yn Llyfrgell Wrecsam) yn un o 450 o ganolfannau gwybodaeth yr UE ar draws Ewrop. Maent yn wleidyddol niwtral ac yma i ddarparu gwybodaeth am yr UE; nid ydynt yn siarad ar ran yr UE.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Beth maen nhw’n ei wneud?
Felly, beth maen nhw’n ei wneud a sut y gallant eich helpu chi:
- Gallant ateb cwestiynau am eich hawliau – boed hynny oherwydd eich bod yn teithio â rhywun nad ydynt yn ddinesydd o’r UE neu os ydych yn ddinesydd yr UE yn byw yn y DU – neu fel arall – efallai eich bod yn meddwl sut y bydd Brexit yn eich effeithio chi.
- Gallant ddweud wrthych beth yw’r UE, sut mae’n gweithio a sut y cafodd ei sefydlu.
- Mae ysgolion yn elwa o weithdai am iaith, Ewrop, democratiaeth a mwy yn ogystal â derbyn cyhoeddiadau am ddim ar wledydd yr UE, newid hinsawdd, sut mae’r UE yn gweithio, mapiau a mwy.
- Mae ganddynt wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i fynd dramor ag Erasmus+ lle gallwch astudio, hyfforddi neu wirfoddoli mewn gwlad arall.
- Gall busnesau sy’n gobeithio gweithio o fewn y farchnad Ewropeaidd a phobl ifanc sy’n chwilio am waith mewn gwledydd eraill elwa o gysylltiadau Europe Direct â rhwydweithiau arbenigol megis Entersprise Europe Network ac Eurodesk.
- Maent yn gyswllt lleol â sefydliadau Ewropeaidd. Os oes gennych unrhyw gwestiwn nad ydi’r ateb iddo ar gael ganddyn nhw, gallant ddod o hyd i’r sefydliad perthnasol er mwyn cael yr ateb i chi.
- Ac yn ôl at y Nadolig! Bob blwyddyn, mae Europe Direct yn cyfnewid addurniadau coeden Nadolig. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i grwpiau o 30 o blant wneud addurn Nadolig a phamffled wybodaeth sy’n disgrifio Nadolig yn eu gwlad. Y llynedd, rhoddodd gyfle i 20,000 o blant ar draws Ewrop ddysgu am ddaearyddiaeth, diwylliant, iaith a mwy.
Cofiwch, gallwch ennill £50 dros yr haf eleni drwy anfon lluniau i ni o lefydd yn y Fwrdeistref Sirol yr ydych chi’n teimlo sy’n amlygu treftadaeth Wrecsam. Cewch ddarganfod mwy drwy glicio yma.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN