Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?
ArallPobl a lle

Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?

Diweddarwyd diwethaf: 2017/10/19 at 2:44 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?
RHANNU

Mae’n bosibl y byddwch yn synnu o wybod mai hwn yw un o’r digwyddiadau cerddoriaeth rhyngwladol mwyaf yn Ewrop – FOCUS Wales ac mae’n digwydd yma yn Wrecsam bob mis Mai.

Cynnwys
“8,000 o bobl sy’n dod i Wrecsam o bob cwr o’r byd”“Mae Wrecsam yn lleoliad gwych”“artistiaid o fwy na 30 o wahanol wledydd”“200 o fandiau ac 20 o leoliadau”

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan gerddorion lleol, Andy Jones a Neal Thompson, ac mae’n denu mwy na 2,000 o geisiadau gan artistiaid o bob cwr o’r byd sydd am ddod i arddangos eu talent yma yn Wrecsam.

“8,000 o bobl sy’n dod i Wrecsam o bob cwr o’r byd”

Ers iddo ddechrau yn 2010 mae wedi mynd o nerth i nerth ac mae mwy nag 8,000 o bobl yn mynychu bellach ac maen nhw’n dod i Wrecsam o bob cwr o’r byd i weld beth sy’n digwydd yma am dridiau ym mis Mai. Pwy sy’n chwarae, pwy sy’n newydd a pwy ddylech gadw llygad amdanynt. Nid cerddoriaeth yn unig sy’n denu’r torfeydd, mae sbotolau ar y celfyddydau, ffilm a chomedi hefyd. Mae llawer yn trefnu llety a manteisio ar fwytai ac atyniadau twristiaid lleol – i gyd yn dod â refeniw gwerth £330,000 i economi Wrecsam.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Aethom i gyfarfod ag Andy a Neal, cerddorion a wnaeth gyfarfod yn hen Goleg Iâl yn Wrecsam, i weld pam mae eu digwyddiad mor llwyddiannus a beth maen nhw’n ei obeithio ar gyfer y dyfodol.

Dywedasant eu bod yn gweld beth maen nhw’n ei wneud fel arddangos talent Cymru a’u helpu i lwyddo yn eu gyrfaoedd. Mae’n amser da i rwydweithio gydag eraill yn y diwydiant cerddoriaeth a chyfarfod cyfryngau’r byd. Maen nhw hefyd wedi llunio partneriaethau rhyngwladol sy’n amhrisiadwy i ddatblygiad FOCUS Wales yn y dyfodol.

Gwnaethom ofyn pam Wrecsam? Os mai digwyddiad Cymru gyfan yw hwn – pam nad yw yn y brif ddinas, Caerdydd?

“Mae Wrecsam yn lleoliad gwych”

“Mae Wrecsam yn lleoliad gwych ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad Cymru gyfan. Mae lleoliadau gwych yma sydd yn eithaf agos at ei gilydd ac mor amrywiol ag Eglwys Plwyf San Silyn a Central Station i babell ar Sgwâr y Frenhines a lleoliadau celfyddydol Oriel Wrecsam ac Un Deg Un. Mae hefyd mewn lleoliad delfrydol ar gyfer teithwyr rhyngwladol sy’n gallu defnyddio meysydd awyr Lerpwl a Manceinion ac wrth gwrs mae cysylltiadau priffyrdd i weddill y DU dim ond munudau i ffwrdd.”

“Mae pobl Wrecsam yn gynnes a gwerthfawrogol iawn a bydd ymwelwyr bob amser yn rhoi sylwadau am groeso mor gynnes maen nhw’n ei gael yma. Mae FOCUS Wales hefyd yn rhoi enw da i Wrecsam fel y “cyrchfan” poblogaidd ar gyfer celfyddyd a cherddoriaeth yn y rhanbarth.”

“artistiaid o fwy na 30 o wahanol wledydd”

Yn nigwyddiad eleni, roedd cerddorion ac artistiaid o fwy na 30 o wahanol wledydd o mor bell â Chanada, Korea, Ewrop, Madagascar, Brasil ac Awstralia yn perfformio i leoliadau llawn dop yma yn Wrecsam. Bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn fwy ond mae’r ddau wedi bod yn ofalus dros y blynyddoedd i beidio tyfu’r digwyddiad yn rhy gyflym fel ei fod yn cadw ei natur broffesiynol a’i enw da am artistiaid a digwyddiadau o safon.

Cyn i ni adael, gwnaethom ofyn iddynt am eu barn am y sîn gelfyddydol yn Wrecsam ac yn enwedig gyda’r cyfleuster celfyddydau a marchnadoedd £4.5 miliwn – Tŷ Pawb, yn agor y flwyddyn nesaf, ac roeddent yn glir iawn – mae sîn gelfyddydol ffyniannus yn Wrecsam a bydd Tŷ Pawb yn gweithio os bydd pawb yn ei gefnogi. Bydd yn gyfleuster rhanbarthol ac mae’n fonws i Wrecsam.”

“200 o fandiau ac 20 o leoliadau”

Mae’r ddau yn aros yn brysur drwy’r flwyddyn gyda threfnu’r digwyddiad a gyda disgwyl 2,000 o geisiadau eto ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf, gwnaethom adael iddynt fwrw ymlaen â’u gwaith – trefnu gŵyl gerddoriaeth wych gyda 200 o fandiau ac 20 o leoliadau.

Os nad ydych wedi bod i FOCUS Wales eto – rydym yn argymell eich bod yn rhoi cynnig arno ac mae tocynnau ar gyfer mis Mai 2018 eisoes ar werth ac yn gwerthu’n dda. Caiff rhestr gyntaf o berfformwyr ei chyhoeddi ar 24 Hydref felly cadwch olwg ar eu gwefan yn http://www.focuswales.com

Mae’r llun nodweddiadol yn dangos (canol) Andy Jones, Sarah Jones, a Neal Thompson o FOCUS Wales, (i’r chwith) Amanda Davies, (i’r dde) Joe Bickerton o Gyngor Wrecsam a gyflwynodd Wobr Gwasanaethau Cwsmeriaid Eithriadol FOCUS Wales yn gynharach eleni ar ran Destination Wrexham.

Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?
Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?
Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?
Beth sy’n dod â £330,000 i Wrecsam bob blwyddyn?

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau

COFRESTRWCH FI

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Treftadaeth Brymbo Cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer Treftadaeth Brymbo
Erthygl nesaf Ewch i feicio yr hanner tymor hwn Ewch i feicio yr hanner tymor hwn

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English