Mae cynllun tai newydd wedi’i anelu at gyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag angen o ran tai yn agos i gael ei gwblhau.
Mae Tŷ Ryan ar Ffordd Croesnewydd yn Wrecsam, yn cynnwys 16 fflat ac yn debyg o dderbyn ei denantiaid cyntaf ym mis Mawrth.
Wrth i’r cynllun gael ei adeiladu, rhoddwyd y cyfle i gyn-aelodau’r lluoedd arfog gymryd rhan yn y gwaith adeiladu a sicrhau cymwysterau yn ogystal â sgiliau crefftwyr gwerthfawr.
Mae 8 o gyn-aelodau’r lluoedd arfog wedi llwyddo i gymryd rhan yn y cynllun ac maent bellach wedi cael cynnig fflatiau ar y datblygiad y gwnaethant helpu i’w adeiladu.
Mae disgwyl iddynt symud i mewn i’w cartrefi newydd ym mis Mawrth.
Dyma’r prosiect cyntaf o’r math hwn i ddigwydd yng Nghymru.
Partneriaeth lwyddiannus
Mae’r cynllun wedi cael ei ddatblygu diolch i bartneriaeth lwyddiannus rhwng Cyngor Wrecsam, a ddarparodd y tir, Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, a reolodd y gwaith adeiladu ar y cynllun, a’r Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol sydd wedi monitro’r hunan-adeiladwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.
Mae’r gwaith adeiladu ei hun yn cael ei wneud gan Williams Homes, y Bala.
Trefnwyd taith dywys o amgylch y safle adeiladu yn ddiweddar ar gyfer grŵp bychan gan gynnwys yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths.
Dywedodd y Cyng. Griffiths: “Rydw i wedi cael fy mhlesio’n fawr gyda’r hyn rwyf wedi ei weld heddiw a’r cynllun yn gyffredinol. Rydym yn datblygu tai modern o safon uchel ar gyfer rhai o’r rhai hynny sydd eu hangen fwyaf. Bydd nifer o gyn-aelodau’r lluoedd arfog a fydd yn byw yma wedi dod o sefyllfaoedd anodd gan gynnwys bid yn ddigartref.
“Ers i ni lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2013, mae Cyngor Wrecsam wedi gweithio’n galed i gryfhau ein cysylltiadau gyda’r lluoedd arfog ac rwy’n credu fod llwyddiant y cynllun hwn a sut y mae’r rhai a gymerodd ran wedi gallu elwa drwy hyfforddiant, cymwysterau a chefnogaeth ar gyfer gwaith yn dystiolaeth o’n hymrwymiad i hyn.”
Dywedodd yr Aelod Lleol dros Frynyffynnon, y Cynghorydd Phil Wynne: “Mae gan gynlluniau tai newydd fel yr un yma ran hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â phrinder tai. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gweithio mor llwyddiannus mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau i ddatblygu cynllun a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i dai yn yr ardal.”
Ymrwymiad a gwaith caled ‘a ddangosir gan yr hunan-adeiladwyr
Ariannwyd Tŷ Ryan drwy Gronfa Llety Cyn-filwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, a grëwyd o gronfa Libor. Mae hwn yn grant i helpu cyn-aelodau’r lluoedd arfog i gael mynediad i dai a gwasanaethau cefnogi ar ôl gadael y lluoedd arfog. Dyrannwyd cyfanswm o £2.263 miliwn ar gyfer cynlluniau yn Wrecsam.
Dywedodd Ken Hames o’r Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol: “Ar ran yr Asiantaeth, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi llwyddo i sicrhau fod yr her hon yn dwyn ffrwyth.
“Un o gonglfeini’r cynllun yw ei fod yn creu cymuned gynaliadwy, yn arbennig yn sgil y strategaeth hunan-adeiladu sy’n trawsnewid bywydau cyn-aelodau’r lluoedd arfog.
“Mae’r hunan-adeiladwyr sydd wedi gweithio gyda ni ar y prosiect wedi rhoi ymroddiad aruthrol i ymgysylltu gyda ni a bod yn broffesiynol a gweithgar ar y safle ac rydym yn falch iawn ohonynt. Mae’n werth chweil i weld y prosiect yn dod at ei gilydd rŵan ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn symud i mewn i’w cartrefi newydd.”
Dywedodd Richard Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Tai Dewis Cyntaf: “Rydym wedi bod yn falch iawn i gael gweithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Wrecsam a’r Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol ar brosiect mor arloesol a blaengar. Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gyda’r cynnydd ar y safle ac mae’n gyffrous fod gennym 8 o hunan-adeiladwyr sydd ar fin symud i mewn i’w cartrefi ym mis Mawrth gydag un arall ar y rhestr aros am fflat addas.
Rydym yn derbyn ceisiadau gan unrhyw gyn-aelodau’r lluoedd arfog felly byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud cais am fflat i gysylltu â ni.”
Sut i wneud cais
Ydych chi’n:
- Cyn-aelod o’r lluoedd arfog
- Perthyn i gyn-aelod o’r lluoedd arfog
- Cysylltiad drwy briodas â chyn-aelod o’r lluoedd arfog
- Os felly, cysylltwch 02920 713765 neu 02920 713752
- wrexhamhousing@fcha.org.uk
Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?
- Cofrestriad cyflym a syml yn cymryd dim mwy na 15 munud
- Caniatewch 4-6 wythnos ar gyfer y broses ymgeisio lawn
Mae tai ar gael ar gyfer:
- Pobl mewn gwaith neu ddi-waith
- Pobl sengl a Theuluoedd
- Rhenti fforddiadwy
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT