Erthygl gan Debbie Williams, Swyddog Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam
Mae darllen yn rhywbeth mae pobl yn ei wneud ar eu pennau’u hunain gan amlaf, ac yn ôl pob tebyg mae llyfrau’n fwy poblogaidd nag unrhyw fath arall o gelfyddyd. Y weithred o ddarllen sydd wrth wraidd datblygu darllenwyr, a chydnabod bod y darllenydd yn chwarae rhan weithredol yn hytrach na goddefol yn hyn o beth. Mae deunydd marchnata a’r ddelwedd o lenyddiaeth ar y cyfryngau’n canolbwyntio ar yr awduron neu’r llyfrau; mae llyfrgelloedd yn rhoi pwyslais ar y darllenwyr drwy ofyn, pwy yw’r darllenydd? Sut ydyn ni’n eu cyrraedd nhw, a pham? Pa ddylanwad sydd gan ddarllenwyr ar lyfrgelloedd?
Mae’n siŵr bod darllen yn destun mwy o gywilydd, euogrwydd a snobyddiaeth nag unrhyw fath arall o gelfyddyd, ac er na fyddai neb yn meddwl ddwywaith am feddwl felly am ddim byd arall, gall effeithio’n drwm arnynt pan mae’n dod i lyfrau, a’u hatal rhag mentro wrth ddewis eu deunydd darllen. Y grefft gyda datblygu darllenwyr yw annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd a gwahanol, gan gynnig ambell i syrpreis, eu helpu a rhoi’r grym iddynt fagu hyder am eu dewisiadau darllen eu hunain, a mentro o bryd i’w gilydd, hyd yn oed!
Mae Datblygu Darllenwyr yn seiliedig ar y syniad mai’r darllenydd a ŵyr orau, ond hefyd ein bod ni fel llyfrgellwyr yn medru chwarae rhan bwysig wrth eu tywys i feysydd newydd. Y nod yw bod pobl yn cael mwy o fwynhad wrth ddarllen, bod ganddynt fwy o ddewis o bethau i’w darllen, a’u bod yn cael cyfle i rannu eu profiadau a hybu statws darllen fel gweithgarwch creadigol.
Rydyn ni’n gwneud hyn yn y lle cyntaf drwy hyfforddi staff fel eu bod yn meddu ar y sgiliau i dywys darllenwyr drwy’r dewisiadau a’r cyfleoedd newydd. Mae’r rhan fwyaf o staff Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam wedi cwblhau’r rhaglen Datblygu Darllenwyr yn y Rheng Flaen a luniwyd gan Opening the Book. Mae Opening the Book wedi datblygu dull newydd sbon o hyrwyddo llyfrau, drwy ddechrau gyda’r darllenydd a’r profiad o ddarllen, yn hytrach na’r awdur neu’r llyfr, hynny yw, ‘gwerthu’r crensian, nid y creision’. Pa brofiad a gewch chi o ddarllen y llyfr hwn? Mae’r rhan helaeth o waith hyrwyddo’r llyfrgell wedi’i anelu at werthu’r profiad o ddarllen yn hytrach na llyfrau gan unrhyw awdur penodol, er enghraifft, llyfrau fydd yn gwneud ichi chwerthin, crïo neu ddisgyn mewn cariad.
Ni fydd staff y llyfrgell byth yn beirniadu beth mae rhywun yn ei ddarllen, a byth yn dwrdio neb am beidio â gorffen llyfr – mae bywyd yn rhy fyr ac mae gormod o lawer o lyfrau gwych i bobl eu darganfod. Mae pawb yn hoffi ac yn mwynhau gwahanol lyfrau ar adegau gwahanol o’u bywydau, a’r peth pwysig yw peidio â beirniadu’n hunain am beidio â dilyn y ffasiynau diweddaraf ym myd darllen. Fe allwn ni eich helpu i ddod o hyd i’r llyfr gorau ichi ei ddarllen erioed.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf ac Wythnos y Llyfrgelloedd yn gyfleoedd gwych i lyfrgelloedd hyrwyddo darllen i’r cyhoedd a datblygu darllenwyr. Yn ystod gwyliau’r haf mae’r staff yn gweithio’n galed i sicrhau fod plant yn dal i ddarllen drwy eu helpu i ddewis llyfrau difyr, ac yn manteisio ar ddigwyddiadau fel Wythnos y Llyfrgelloedd i farchnata a hyrwyddo llyfrau a darllen i gymaint o bobl â phosib. Mae Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam yn ategu cynlluniau cenedlaethol drwy greu ymgyrchoedd hyrwyddo rheolaidd ar themâu arbennig i hybu llyfrau a darllen i bobl o bob oed.
Mae datblygu darllenwyr yn cynyddu cynulleidfa’r llyfrgell ac yn chwalu rhwystrau. Drwy feithrin hyder y darllenwyr a’u hannog i fentro a rhoi cynnig ar bethau newydd, mae’r diwydiant llyfrau i gyd yn elwa. Bydd gweithlu medrus a hyderus yn creu gwell awyrgylch yn y llyfrgell, a gobeithiwn y bydd hynny’n helpu darllenwyr i ymlacio a mwynhau’r llyfrau.
Diolchiadau:
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I