Rydym yn gwybod mai un o’r materion mwyaf i ni i gyd yn Wrecsam yw a yw ein biniau a’n cynwysyddion ailgylchu yn cael eu casglu ar amser.
I’r mwyafrif helaeth ohonom, mae’n digwydd bob wythnos heb drafferth ond weithiau – ac o bryd i’w gilydd am fwy nag wythnos neu ddwy, byddwn yn dod adref i weld nad yw ein bin neu gynwysyddion ailgylchu, neu’r ddau o bosibl, wedi’u casglu.
Pam mae hyn? Weithiau, mae oherwydd nad oedd y biniau wedi’u rhoi allan ar amser, neu nad yw’r deunydd ailgylchu wedi’u didoli’n gywir ond weithiau, mae’n digwydd oherwydd problemau “mynediad”.
Mae hyn yn digwydd pan na all y lorïau bin – a chofiwch eu bod yn fawr a thrwm, fynd i lawr ffordd yn ddiogel heb achosi difrod i gerbydau sydd wedi parcio.
Yn aml iawn, mae hyn oherwydd bod cerbydau wedi’u parcio heb sylw dyledus i ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig y lorïau bin. Felly gofalwch lle rydych yn parcio ar ddiwrnod bin ac, os yw’n bosibl, gwnewch yn siŵr bod eich cymdogion yn ymwybodol y gallant fod yn atal y stryd gyfan rhag cael casgliad bin.
Mae ein criwiau am wneud eu gwaith yn drylwyr ond rhaid iddynt ei wneud yn ddiogel a heb niwed i unrhyw un neu unrhyw beth, felly ceisiwch ei gwneud mor hawdd ag sy’n bosibl iddynt fynd i lawr eich stryd.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]