Maen nhw’n un o’r cwmnïau tegannau mwyaf adnabyddus a llwyddiannus yn y byd – ond oeddech chi’n gwybod bod brics LEGO® yn arfer cael eu gweithgynhyrchu yma yn Wrecsam?
I ddechrau cynhyrchwyd y brics byd-enwog mewn ffatri ar Hugmore Lane ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Yn ddiweddarach adeiladodd LEGO ganolfan ddosbarthu newydd yn y DU ar Ffordd Rhuthun.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae llawer o bobl leol yn dal i gofio safle Ffordd Rhuthun yn arbennig. Pwy allai anghofio’r brics LEGO anferth, eiconig a oedd unwaith yn sefyll wrth ymyl y fynedfa?
I ddathlu’r cysylltiad hanesyddol hwn rhwng Wrecsam a’r gwneuthurwr teganau o Ddenmarc bydd Amgueddfa Wrecsam yn cynnal Brics Bychain, arddangosfa deithiol gan Warren Elsmore sy’n cynnwys modelau ei dîm o adeiladau, henebion a strwythurau enwog wedi’u gwneud o frics LEGO.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys amgueddfa LEGO Warren Elsmore yn cynnwys modelau a chynnyrch o flynyddoedd cynnar y cwmni hyd at heddiw.
Yn naturiol, bydd ardal yn yr oriel lle gallwch chi adeiladu eich modelau LEGO eich hun. Edrychwch hefyd am newyddion am y diwrnodau digwyddiadau arbennig yn ystod yr arddangosfa!
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL