Mae Bugeiliaid Stryd Wrecsam yn gwahodd aelodau eglwysi (dros 18) o bob enwad i ymuno â nhw wrth iddynt barhau â’u gwaith pwysig ar strydoedd canol tref Wrecsam.
Sefydlwyd yma ers 2006 maent yn siarad gyda phobl sydd angen cymorth yn ystod eu noson allan ac yn aml yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bob nos Sadwrn a dwy nos Wener y mis maent yn mynd ar y strydoedd rhwng 10 pm tan oriau mân y bore y diwrnod canlynol yn dosbarthu fflip fflops a dŵr ac yn darparu clust i wrando i unrhyw un sy’n drist neu’n rhwystredig.
“Nid oes dwy noson fyth yr un fath”
Dywedodd Gareth Jones o’r Bugeiliaid Stryd, “Nid oes dwy noson fyth yr un fath ac rydym bob amser yn fodlon helpu ble gallwn i roi cymorth a chefnogaeth.
“Mae’r niferoedd yn gostwng ar hyn o bryd, yn bennaf oherwydd effeithiau’r Pandemig ac rydym yn annog aelodau newydd i gysylltu ac ymuno â ni yn y gwaith pwysig hwn.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Bugeiliaid Stryd bydd angen i chi ddilyn cwrs hyfforddiant byr. Mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan. (Saesneg yn unig)
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae’r Bugeiliaid Stryd yn cael eu croesawu wrth sicrhau bod strydoedd Wrecsam yn ddiogel i’r rhai sy’n mwynhau economi gyda’r nos canol y dref.
“Maent yn grŵp ymroddgar o unigolion ac mae’r heddlu a’r Cyngor yn croesawu eu presenoldeb ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad gwerthfawr a wnânt i ddiogelwch y cyhoedd.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL