Mae Theo Davies and Sons, yng Nglyn Ceiriog, wedi dangos gwytnwch mawr ers agor eu drysau am y tro cyntaf yn 1955.
Dros y blynyddoedd mae’r busnes wedi mynd o gynhyrchu olwynion i atgyweirio adeiladau fferm, a bellach yn canolbwyntio ar gynhyrchu dodrefn o’r radd flaenaf.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Maen nhw hefyd wedi datblygu ffrâm chwyldroadol sy’n helpu cleifion sy’n dioddef o anafiadau llinyn y cefn, parlys ymledol a strociau.
Mae’r ‘Oswestry Standing Frame’ fel y caiff ei alw yn cael ei ddefnyddio ar draws y GIG a gan glinigwyr preifat ar hyd a lled y wlad i helpu gydag adferiad cleifion.
Mae’r tîm wedi addasu a chreu gwelyau ysbyty pwrpasol ar gyfer eiddo domestig, yn cynnwys gwelyau i blant a phobl gydag anghenion ychwanegol. Nod y busnes ydi hyrwyddo eu cynnyrch newydd i ymddiriedolaethau ysbytai, therapyddion galwedigaethol, elusennau a gofalwyr.
Yn ddiweddar maen nhw wedi bod yn canolbwyntio ar lansio gwelyau arbennig sy’n cael eu creu ar archeb i blant gydag anableddau.
Meddai’r perchennog, Einion Davies: “Rydym ni wedi addasu’n barhaus ers i’r teulu agor y busnes, ac rydym ni’n ymfalchïo yng ngallu ein staff medrus i greu dodrefn o’r safon uchaf.
“Mae Tîm Busnes Cyngor Wrecsam wedi darparu cefnogaeth gyda’n cynllunio busnes ac wedi ein helpu ni i dderbyn grant i ddatblygu ein gwefan a’n gwaith marchnata. Roedd yn braf gweld yr Aelod Arweiniol yma’n cymryd diddordeb yn ein cwmni a’n staff.”
Meddai’r Cyng. Nigel Williams: “Roedd yn bleser cwrdd ag Einion a’i staff. Mae’r cwmni’n cyflogi staff lleol o ardaloedd gwledig Dyffryn Ceiriog ac mae’n enghraifft wych o ba mor arloesol ydi busnesau Wrecsam, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.
“Rydw i’n edrych ymlaen at ymweld â rhagor o fusnesau, ar stadau diwydiannol Wrecsam ac yng nghefn gwlad, i ddysgu mwy am eu llwyddiannau a sut maen nhw’n addasu i’r marchnadoedd ac yn diwallu’r galw.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI