Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy
Wrth i’r Nadolig agosáu a phawb yn edrych ymlaen at y partïon Nadolig, rydyn ni’n atgoffa pawb bod angen gwirio bod unrhyw dacsi yr ewch iddo wedi’i drwyddedu’n iawn.
Dylai pob cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni arddangos platiau trwydded gwyn a phiws y tu allan i’r cerbydau.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Bydd gan gerbydau hurio preifat arwyddion melyn yn y ffenestri cefn hefyd.
Dylai fod gan yr holl yrwyr fathodyn ID yn dangos eu henw, llun ohonynt, rhif trwydded a dyddiad terfyn. Os na allwch weld y bathodyn, gofynnwch i’w weld cyn dechrau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae mor hawdd neidio i mewn i dacsi sy’n aros wrth adael clwb nos neu leoliad tebyg, gan ddisgwyl cyrraedd adre’n saff. Mae’r Nadolig yn amser pan all rhai pobl ddigydwybod weld cyfle i wneud ychydig o arian drwy esgus bod yn yrrwr tacsi cyfreithlon. Ar yr achlysuron hyn, ni fydd y cerbydau wedi’u trwyddedu nac yn cynnwys yswiriant digonol, ac ni fyddant wedi mynd drwy’r profion angenrheidiol ar gyfer cludo’r cyhoedd. Mae’n werth gwirio cyn mynd i mewn ac os na allwch weld bathodyn ID y gyrrwr, gofynnwch i’w weld.”
Yn ystod mis Rhagfyr, bydd Swyddogion Trwyddedu yn gweithio gyda Heddlu Wrecsam i wirio tacsis er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn gyfreithiol ac yn addas i’r pwrpas.
Mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn hyrwyddo ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, er mwyn annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan… yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd clybiau a thafarndai Wrecsam.
Mae’n wir, wrth yfed llai – a gwybod lle mae’ch terfynau – fe allwch chi gael noson allan lawer iawn gwell.
I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, cliciwch yma.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU