Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bwriedir i Fathodynnau Glas gael eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr anabl yn unig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bwriedir i Fathodynnau Glas gael eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr anabl yn unig
Y cyngor

Bwriedir i Fathodynnau Glas gael eu defnyddio ar gyfer defnyddwyr anabl yn unig

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 1, 2021 5:41 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Blue Badge
RHANNU

Os ydych chi wedi cyflwyno cais llwyddiannus am Fathodyn Glas, mae’n golygu bod gennych chi anabledd a fydd yn rhoi hawl i chi ddefnyddio man parcio i bobl anabl mewn maes parcio neu barcio ar y stryd mewn lleoliadau penodol.

Mae’n bwysig cofio mai ar eich cyfer chi, a chi yn unig, mae’r Bathodyn Glas, ac ni ddylai aelodau o’ch teulu na’ch ffrindiau ei ddefnyddio er mwyn hwyluso parcio iddyn nhw, hyd yn oed os ydynt yn gwneud pethau i’ch helpu chi.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Dim ond os ydych chi yn y cerbyd, naill ai fel gyrrwr neu deithiwr, neu os ydych chi’n cael eich danfon neu eich casglu, y gellir ei ddefnyddio. Os nad ydych chi yn y cerbyd pan mae’n cael ei barcio, ni ddylid defnyddio’r bathodyn glas.

Yn anffodus, rydym wedi gweld nifer o achosion diweddar lle mae gyrwyr wedi bod yn defnyddio Bathodynnau Glas pobl eraill er mwyn parcio mewn man parcio i bobl anabl, neu mewn lleoliad cyfleus ar y stryd pan nad oes ganddynt hawl i wneud hynny.

Gallai hyn olygu nad oes modd i unigolyn, sydd ag angen go iawn i barcio mewn man i bobl anabl neu ar y stryd, wneud beth maen nhw eisiau ei wneud, a hynny’n annibynnol.

Byddwn ni’n erlyn os byddwn yn gweld achosion o gamddefnyddio’r bathodyn. Yn ddiweddar, rydym wedi erlyn dau unigolyn a oedd yn credu y gallent wneud fel y mynnent wrth barcio trwy ddefnyddio bathodyn glas rhywun arall.

Fe arweiniodd yr erlyniadau at euogfarnau troseddol yn y ddau achos, a chyhoeddwyd dirwyon sylweddol gan ynadon, a chafwyd geiriau cryf am yr effaith mae camddefnyddio cynllun y bathodyn glas yn ei chael ar anghenion gwirioneddol deiliaid y bathodynnau hyn.

Dywedodd y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae’n anghywir a gwarthus bod pobl yn camddefnyddio system y bathodyn glas, sydd wedi’i bwriadu ar gyfer pobl ag anableddau go iawn. Sicrhewch nad yw’r system yn cael ei chamddefnyddio, ac mai dim ond pobl sydd â hawl i’w defnyddio sy’n eu defnyddio.”

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ddefnyddio eich Bathodyn Glas, gan gynnwys sut i’w arddangos yn gywir, edrychwch ar y ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol PCR Dylai unrhyw un gyda Symptomau Covid archebu prawf PCR
Erthygl nesaf Plastic Free July - reusable water bottle Dewiswch i ailddefnyddio i helpu’r amgylchedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English