Ar 13 Rhagfyr bydd Sioe Ffasiynau Elusennol yn cael ei llwyfannu yn Nhŷ Pawb!
Dyma’r sioe ffasiynau gyntaf i gael ei chynnal yn y lleoliad hwn a bydd modelau byw yno’n dangos dillad gan fasnachwyr Tŷ Pawb, gan gynnwys ‘gallery 01’ a ‘New Style Boutique.F’.
Bydd naws Nadoligaidd iawn i’r digwyddiad a bydd cerddoriaeth fyw, diodydd ar gael yn y bar ac wrth gwrs bydd y neuadd fwyd ar agor i chi gael bachu rhywbeth blasus i’w fwyta.
Bydd raffl yn cael ei thynnu hefyd a bydd yr holl elw yn mynd i elusen.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Dywedodd Ashley Vaughan Pearson o ‘gallery 01 Lifestyle Boutique’: “Mae’r sioe ffasiynau’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng ‘gallery 01 Lifestyle Boutique’ a ‘New Style Boutique.F.’. Byddwn yn arddangos y steiliau diweddaraf i’ch ysbrydoli. Bydd llawer o hwyl i’w gael ac rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gynnal y digwyddiad hwn yn Nhŷ Pawb a chodi arian i Tŷ Gobaith. Gobeithio y gwelwn ni chi yno! ”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’n wych gweld y mathau hyn o weithgareddau newydd a chyffrous yn cael eu cynnal yn Nhŷ Pawb. Dylid canmol y masnachwyr am eu mentergarwch ac am weithio gyda’i gilydd er mwynhad pawb. Gobeithiaf y bydd llawer ohonoch yn cefnogi’r fenter hon a dymunaf pob lwc iddyn nhw.”
Gallwch weld eu tudalen Facebook yma (https://en-gb.facebook.com/events/357002608206118/)
Bydd y sioe ymlaen am 2 awr o 6pm ymlaen. Mwynhewch!
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU