Mae Llywodraeth y DU yn profi’r system Rhybuddion Argyfwng ddydd Sul 7 Medi 2025 am 3yp.
Bydd eich ffôn symudol neu dabled yn crynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren, hyd yn oed os yw’r sain wedi ei ddiffodd. Bydd y neges rybudd yn cadarnhau mai prawf yw hwn a bod dim angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach.
Mae profion rheolaidd yn sicrhau bod y system yn gweithio’n iawn os oes angen ei defnyddio mewn argyfwng sy’n peryglu bywydau. Cewch wybod mwy yn gov.uk/alerts
Gallwch ddewis peidio â chael Rhybuddion Argyfwng, gan gynnwys y prawf cenedlaethol, ond dylech eu cadw ymlaen er eich diogelwch eich hun.
Cewch Rybuddion Argyfwng trwy eich ffôn symudol neu dabled os oes argyfwng sy’n peryglu bywydau yn agos. Dim ond y Llywodraeth a gwasanaethau brys sy’n gallu eu hanfon.
Mae rhai pethau syml y gallwn ni gyd eu gwneud i fod yn fwy parod ar gyfer argyfwng.
Ewch i gov.uk/prepare i wybod sut gallwch chi baratoi.
Os ydych chi’n gyrru…
PEIDIWCH â gafael mewn ffôn symudol tra’n gyrru neu’n reidio beic modur. Mae’n anghyfreithlon gwneud hyn.
Os derbyniwch rybudd tra’n gyrru, peidiwch â chodi eich ffôn a cheisio delio â’r neges. Daliwch i yrru fel arfer, gan gadw eich cerbyd dan reolaeth.
Os teimlwch yr angen i edrych ar eich ffôn, rhaid i chi ddod o hyd i le diogel a chyfreithlon i stopio’r cerbyd yn gyntaf.
