Byddwn yn ailagor canolfan Galw Wrecsam ar 9 Awst i breswylwyr nad ydynt yn gallu derbyn gwasanaeth ar-lein.
Byddwn yn cynnig apwyntiadau ar gyfer y gwasanaethau canlynol:
- Bathodynnau Glas
- Treth y Cyngor
- Budd-daliadau Tai
- Dewisiadau Tai
- Cynllunio
- Dyraniadau Tai
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam
Mae’r rhifau a gyhoeddwyd ar gael ar ein gwefan.
Os oes arnoch chi angen apwyntiad, bydd aelod o staff yn trefnu hyn gyda chi.
Yr oriau agor yw 10 – 4 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Hoffem atgoffa preswylwyr bod nifer o wasanaethau ar gael ar-lein, sef y ffordd hawsaf a chyflymaf o gael mynediad at lawer o wasanaethau.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN