Bydd HWB Cymraeg yn dychwelyd ar gyfer FOCUS Wales eleni, gan gynnig rhagor o ddigwyddiadau ac artistiaid Cymraeg yn yr ŵyl gerddoriaeth cenedlaethol yn Wrecsam.
Bydd HWB Cymraeg yn dychwelyd i’w pabell am y drydedd flwyddyn ar Sgwâr y Frenhines o ddydd Iau, 16 Mai tan ddydd Sadwrn, 18 Mai.
Mae’r rhaglen ar gyfer HWB Cymraeg eleni yn cynnwys perfformiadau byw gan enwogion o’r byd cerddoriaeth Cymraeg, ynghyd â DJs a chorau.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Cynhelir perfformiadau cerddoriaeth fyw yn HWB o 7pm bob nos, ac mae rhestr y perfformwyr yn cynnwys enwogion megis Zabrinski, I Fight Lions, Colorama, Cynefin, yn ogystal â’r gantores o Wrecsam, Elan Catrin Parry.
Yn ystod y dydd, bydd HWB yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau Cymraeg, gan gynnwys perfformiadau gan gorau, Parti Magi Ann, ffilmiau yn ogystal â gweithdai dysgu Cymraeg.
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r perfformwyr.
Dyma fideo byr yn dangos rhai o’r perfformiadau poblogaidd yn HWB y llynedd, gan gynnwys y digrifwr Cymraeg, Tudur Owen:
Dywedodd Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd HWB Cymraeg yn dychwelyd i Sgwâr y Frenhines fel rhan o FOCUS Wales 2019, ac mae gennym amrywiaeth cyffrous o ddigwyddiadau a pherfformiadau cerddoriaeth fyw ar gael ar eich cyfer.
“Bwriad HWB yw cynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau sy’n apelio at bobl sy’n dysgu Cymraeg yn ogystal â siaradwyr Cymraeg profiadol fel ei gilydd, a chynnig rhywle y gall dysgwyr ymarfer a defnyddio eu Cymraeg mewn lleoliad bywiog a phoblogaidd.
“Hoffwn ddiolch hefyd i FOCUS Wales am eu cefnogaeth i HWB Cymraeg, ac rwy’n annog unrhyw un sydd heb ymweld â HWB yn y gorffennol i ddod draw i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig eleni.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae HWB Cymraeg wedi bod yn elfen boblogaidd iawn o FOCUS Wales yn ei ddwy flynedd gyntaf, ac rwy’n falch iawn ei fod yn dychwelyd am y trydydd tro.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB