Rydym yn adfer taliadau meysydd parcio yng nghanol y dref o 1 Hydref. Byddant yn ddi-dâl ar ôl 11am, ac eithrio Tŷ Pawb lle bydd taliadau parcio arferol yn weithredol drwy’r dydd.
Bydd taliadau hefyd yn cael eu hadfer yn ein parciau gwledig, ein parc technoleg a gorsaf Rhiwabon ond ni fyddant yn ddi-dâl ar ôl 11am.
Bydd taliadau arferol yn berthnasol mewn meysydd parcio yn y dref rhwng 8am ac 11am.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor: “Mae parcio di-dâl wedi bod yn weithredol ers diwedd mis Mawrth er mwyn helpu gweithwyr a oedd yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd.
“Adfer taliadau yn ein meysydd parcio”
“Fe wnaethon ni stopio taliadau meysydd parcio ar ddechrau’r cyfnod clo a pharhau gyda’r cynnig wrth i’r cyfnod clo lacio’n raddol. Fe wnaethom barhau i gynnig parcio di-dâl er mwyn cefnogi masnachwyr yng nghanol y dref, yn enwedig masnachwyr annibynnol a gafodd eu heffeithio’n ddifrifol gan y cyfnod clo.
“Yn anffodus, mae agor canol y dref wedi arwain at gamddefnyddio meysydd parcio di-dâl ac rydym bellach wedi gwneud y penderfyniad i adfer taliadau. Byddwn yn caniatáu parcio di-dâl yn y mwyafrif o feysydd parcio yng nghanol y dref ar ôl 11am. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog ymwelwyr i ganol y dref i gefnogi masnachwyr canol y dref.
“Hoffwn ddiolch i staff a chyd-aelodau’r glymblaid am eu cefnogaeth drwy gynnig parcio di-dâl a chyflwyno’r cynnig parcio di-dâl ar ôl 11am.”
Byddwch yn ymwybodol nad yw parcio di-dâl ar ôl 11am yn berthnasol i Tŷ Pawb.
Bydd terfynau amser yn berthnasol yn y meysydd parcio arhosiad byr a dylid eu dilyn – rhoddir dirwyon i gerbydau sy’n aros yn hirach na’r hyn a ganiateir mewn meysydd parcio arhosiad byr.
Yn ogystal, mae trefn newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer lleoedd parcio oddi ar y stryd yn yr orsaf fysiau, a fydd yn helpu i reoli’r orsaf fysiau a’r baeau parcio anabl cyfagos.
Bydd yn rhaid talu i barcio yn y baeau anabl hyn a byddan nhw’n cael eu gweithredu fel llefydd parcio anabl mewn meysydd parcio eraill sy’n eiddo i’r cyngor. Bydd parcio’n ddi-dâl ar ôl 11am.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
APPLY FOR A PUPIL DEVELOPMENT GRANT