Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd meysydd parcio yng nghanol y dref yn ddi-dâl ar ôl 11am o 1 Hydref ymlaen, oni bai am Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bydd meysydd parcio yng nghanol y dref yn ddi-dâl ar ôl 11am o 1 Hydref ymlaen, oni bai am Tŷ Pawb
Y cyngor

Bydd meysydd parcio yng nghanol y dref yn ddi-dâl ar ôl 11am o 1 Hydref ymlaen, oni bai am Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2020 4:38 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Free Parking in Wrexham
RHANNU

Rydym yn adfer taliadau meysydd parcio yng nghanol y dref o 1 Hydref. Byddant yn ddi-dâl ar ôl 11am, ac eithrio Tŷ Pawb lle bydd taliadau parcio arferol yn weithredol drwy’r dydd.

Bydd taliadau hefyd yn cael eu hadfer yn ein parciau gwledig, ein parc technoleg a gorsaf Rhiwabon ond ni fyddant yn ddi-dâl ar ôl 11am.

Bydd taliadau arferol yn berthnasol mewn meysydd parcio yn y dref rhwng 8am ac 11am.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor: “Mae parcio di-dâl wedi bod yn weithredol ers diwedd mis Mawrth er mwyn helpu gweithwyr a oedd yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd.

“Adfer taliadau yn ein meysydd parcio”

“Fe wnaethon ni stopio taliadau meysydd parcio ar ddechrau’r cyfnod clo a pharhau gyda’r cynnig wrth i’r cyfnod clo lacio’n raddol. Fe wnaethom barhau i gynnig parcio di-dâl er mwyn cefnogi masnachwyr yng nghanol y dref, yn enwedig masnachwyr annibynnol a gafodd eu heffeithio’n ddifrifol gan y cyfnod clo.

“Yn anffodus, mae agor canol y dref wedi arwain at gamddefnyddio meysydd parcio di-dâl ac rydym bellach wedi gwneud y penderfyniad i adfer taliadau. Byddwn yn caniatáu parcio di-dâl yn y mwyafrif o feysydd parcio yng nghanol y dref ar ôl 11am. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog ymwelwyr i ganol y dref i gefnogi masnachwyr canol y dref.

“Hoffwn ddiolch i staff a chyd-aelodau’r glymblaid am eu cefnogaeth drwy gynnig parcio di-dâl a chyflwyno’r cynnig parcio di-dâl ar ôl 11am.”

Byddwch yn ymwybodol nad yw parcio di-dâl ar ôl 11am yn berthnasol i Tŷ Pawb.

Bydd terfynau amser yn berthnasol yn y meysydd parcio arhosiad byr a dylid eu dilyn – rhoddir dirwyon i gerbydau sy’n aros yn hirach na’r hyn a ganiateir mewn meysydd parcio arhosiad byr.

Yn ogystal, mae trefn newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer lleoedd parcio oddi ar y stryd yn yr orsaf fysiau, a fydd yn helpu i reoli’r orsaf fysiau a’r baeau parcio anabl cyfagos.

Bydd yn rhaid talu i barcio yn y baeau anabl hyn a byddan nhw’n cael eu gweithredu fel llefydd parcio anabl mewn meysydd parcio eraill sy’n eiddo i’r cyngor. Bydd parcio’n ddi-dâl ar ôl 11am.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/english/education/school_uniform_grant.htm “] APPLY FOR A PUPIL DEVELOPMENT GRANT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Guildhall balcony lit green for Recycle Week 2020 Golau gwyrdd ar gyfer Wythnos Ailgylchu…Bydd Wych. Ailgylcha.
Erthygl nesaf School Uniform Oes gennych chi hawl i gael cymorth gyda chostau gwisg ysgol? Darllenwch fwy i gael gweld

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English