Erthygl gwadd – Eisteddfod
Yn draddodiadol, mae’r Orsedd yn cyhoeddi’r bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl. Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu’r flwyddyn nesaf.
Yr Archdderwydd, sef pennaeth yr Orsedd sy’n arwain y seremoni draddodiadol hon, gyda chadeirydd y pwyllgor gwaith lleol yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd. Unwaith y mae’r copi wedi’i rannu, mae’r wybodaeth yn gyhoeddus a’r gyfrol yn mynd ar werth mewn siopau ar hyd a lled Cymru.
Mae criw o blant y dalgylch yn cymryd rhan yn y seremoni hefyd, gan ddawnsio i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod. Mae’r Ddawns yn rhan liwgar o holl seremonïau’r Orsedd ac wedi’i seilio ar batrwm casglu blodau o’r caeau.
Yn unol â thraddodiad, cynhelir gorymdaith ddechrau’r prynhawn, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd Cymru, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod.
Mae’r Orsedd yn gyfrifol am y seremonïau yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sydd yn rhan o’r ŵyl ehangach sy’n ddathliad lliwgar, croesawgar, cyfeillgar a chynhwysol o’n diwylliant a’n hiaith yma yng Nghymru.
Mae croeso mawr i grwpiau mawr a bach i ymuno gyda ni – roedd dros 600 o bobl yn gorymdeithio yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd!
Mae’r Eisteddfod yn ŵyl liwgar a chyfeillgar, ac rydyn ni am i’n gorymdaith adlewyrchu hynny, ac felly rydyn ni’n annog grwpiau i baratoi baneri i’w cario wrth gerdded.
Cysylltwch os fyddech chi’n hoffi i un o’r tîm alw draw i sgwrsio gyda’ch grwp, ysgol neu gymdeithas am y Cyhoeddi neu’r Eisteddfod. Ebostiwch ni am ragor o fanylion, gwyb@eisteddfod.cymru.
Cofrestrwch i gymryd rhan yn yr orymdaith yma.