Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb, a dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi gorfod dibynnu ar bobl wych i’n helpu ni drwy sefyllfa anodd iawn.
Bu’n rhaid i’n gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu addasu oherwydd y sefyllfa COVID-19 barhaus, a dydi pethau heb fod yn hawdd i’r criw casglu. Gofynnwyd llawer ohonynt, ond maent wedi parhau i weithio’n galed i ddarparu cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i’ch gwasanaeth wythnosol.
Diolch
Wythnos Ailgylchu 2020 yw’r amser perffaith i ni ddiolch i’r criw ailgylchu am eu gwaith caled eleni.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r criw ailgylchu wedi gweithio’n galed iawn eleni ac rydym am ddiolch yn fawr iawn iddyn nhw am eu hymdrechion.
“Nid hon yw’r swydd fwyaf cyfareddol yn y byd, ac ar adeg pan oedd popeth arall ar gau, roedd yn rhaid iddyn nhw ddal ati ac addasu i’r sefyllfa sy’n newid yn barhaus. Fe wnaethon ni ofyn llawer ohonyn nhw ac fe wnaethon nhw ymateb yn wych fel nad oedd llawer o aflonyddwch i’r gwasanaethau casglu, ar adeg pan oedd eu hangen ar bobl yn fwy nag erioed. Diolch.”
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Diolch i chi am eich geiriau caredig
Fel y dywed y Cynghorydd Bithell, nid dyma’r swydd fwyaf cyfareddol…ond does dim llawer o ganmoliaeth i’w gael chwaith.
Nid dyma’r achos yn ddiweddar fodd bynnag. O fis Mawrth, bu trigolion yn canmol y criw ailgylchu ar gyfryngau cymdeithasol, gan ysgrifennu nifer o negeseuon caredig. Ni aeth hyn heb iddyn nhw sylwi, gan godi eu calonnau pan oedd ei angen arnynt.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Ar adeg mor heriol, roedd y cyhoedd yn wych ac yn dangos llawer o gefnogaeth, a gwerthfawrogwyd hyn yn fawr. Roedd yn hyfryd darllen y negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, a’r ysbryd cadarnhaol yn help mawr. Roedd pobl hefyd yn cydnabod ein bod angen gofalu am ein criw, ac roedd gwneud pethau megis diheintio handlenni biniau o help mawr, ac yn parhau i fod o help mawr.”
Daliwch ati i fod yn Wych
Y ffordd orau y gallwn ddiolch i’n criw yw gwneud popeth y gallwn i’w cadw’n ddiogel.
Cofiwch, mae angen i’r gweithwyr allu codi eich cynwysyddion ailgylchu a’u gwagu nhw’n syth i adran gywir y cerbyd. Am resymau diogelwch, ni ellir cyffwrdd y deunyddiau ailgylchu.
Os byddwch yn gadael unrhyw ddeunyddiau ailgylchu rhydd, ni fyddan nhw’n cael eu cyffwrdd. Peidiwch â gwneud hyn.
Os bydd eich bocsys/bagiau ailgylchu yn llenwi, gallwch adael y deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu drws nesaf i’ch gwastraff ailgylchu eraill ar eich diwrnod casglu a byddwn yn ailgylchu’r deunyddiau.
Felly, rhaid i ni bwysleisio mai’r unig ffordd ddiogel i ni fynd â’ch gwastraff ailgylchu ychwanegol yw i chi ei drefnu’n gywir a’i adael mewn cynhwysydd solid ar wahân i ni. Oni bai eich bod chi’n gwneud hyn, ni allwn fynd ag o.
Diolch.
YMGEISIWCH RŴAN