Bydd y profion ar gael i unrhyw breswylwyr lleol sy’n profi symptomau neu wedi derbyn cais gan ein swyddogion olrhain cysylltiadau i gael prawf…
Mae uned brofi symudol wedi dychwelyd i Johnstown i’w gwneud yn haws i bobl sy’n byw yn yr ardal i gael prawf Covid-19.
Bydd y cyfleuster profi mynediad-rhwydd yn cynnig profion PCR yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown, gan gychwyn heddiw ar 13 Medi.
Mae hyn yn dilyn cyfnod llwyddiannus yn gynharach yn yr haf eleni.
Bydd y cyfleuster yn y maes parcio gyferbyn â’r ganolfan gymunedol, a bydd ar agor rhwng 9:30am a 5pm bob dydd Llun hyd nes y clywir yn wahanol.
Mae achosion wedi bod yn gymharol uchel yn yr ardaloedd hyn o’i gymharu â gweddill Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn yr wythnosau diwethaf, a gobeithir bydd darparu’r cyfleuster profi bob dydd Llun yn arafu unrhyw ledaeniad.
Mynediad haws at brofion
Yn dilyn y newid i ofynion hunan-ynysu ar gyfer pobl sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion positif o Covid-19, anogir cysylltiadau cymwys nad yw’n ofynnol iddynt hunan-ynysu gymryd prawf PCR gan ein swyddogion olrhain cysylltiadau, a fydd yn hyrwyddo’r cyfleuster Johnstown ynghyd ag opsiynau lleol eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Warchod y Cyhoedd:
“Dau wythnos yn ol, nododd ein tîm Profi, Olrhain a Diogelu 1,385 o bobl a oedd wedi bod mewn cysylltiad ag achos o Covid-19, a bydd y cyfleuster ychwanegol yn ei gwneud yn haws i gysylltiadau cymwys gymryd prawf PCR.
“Os yw pobl yn profi’n bositif ac yn hunan-ynysu, mae’n helpu i atal lledaeniad y firws.”
Mae’r gwaith yn cael ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Wrecsam ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN