Bydd ysgolion uwchradd ar draws Wrecsam yn trosglwyddo i ddysgu ar-lein ar gyfer yr wythnos nesaf i gyd, a bydd ysgolion cynradd yn gwneud yr un fath ar gyfer deuddydd olaf y tymor.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i nifer gynyddol o staff a disgyblion gael prawf positif neu orfod ynysu, a gobeithio y bydd hyn yn lleihau’r risg y bydd rhaid i deuluoedd ynysu dros gyfnod y Nadolig.
Mae’r penderfyniad i gau ysgolion uwchradd o ddydd Llun (14 Rhagfyr) wedi’i wneud gan benaethiaid gyda chefnogaeth lawn Cyngor Wrecsam.
Mae penaethiaid ysgolion cynradd a’r cyngor wedi cytuno i gau pob ysgol erbyn dydd Iau nesaf (17 Rhagfyr)…er mae’n bosibl y bydd rhai yn cau’n gynt os bydd angen (rhoddir gwybod i rieni a gofalwyr).
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mwyfwy heriol
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg:
“Mae ysgolion wedi bod yn gweithio’n galed i aros ar agor, ond mae’n fwyfwy heriol oherwydd nifer y staff a’r plant sy’n gorfod hunan-ynysu oherwydd y coronafeirws.
“Rydym hefyd yn ymwybodol bod nifer o rieni yn poeni’n arw am y risg o orfod ynysu dros gyfnod y Nadolig, ac ar ôl blwyddyn mor anodd, mae’n rhaid i ni ystyried lles pobl.
“Bydd cau lleoliadau ychydig o ddyddiau’n gynt a throsglwyddo i ddysgu ar-lein – gydag athrawon yn darparu gwersi o bell – yn rhoi amser mae mawr ei angen i ysgolion, wrth helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach a lleihau’r tebygolrwydd y bydd angen i deuluoedd ynysu dros y gwyliau.”
Mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn monitro’r sefyllfa, a’r gobaith gwreiddiol oedd y byddai ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn aros ar agor tan ddiwrnod olaf y tymor (dydd Gwener, 18 Rhagfyr).
Fodd bynnag, mae nifer y staff a’r disgyblion sy’n hunan-ynysu wedi cynyddu’n sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae’r sefyllfa wedi bod yn fwyfwy anodd i benaethiaid.
Meddai’r Cynghorydd Wynn:
“Mae’n bwysig nodi nad yw’r tymor yn gorffen yn gynnar, a bydd disgyblion yn dal i gael gwaith y mae modd iddynt ei wneud gartref yn ystod yr wythnos olaf.
“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ysgolion…ac mae wedi effeithio ar blant, staff, rhieni a gofalwyr.
“Ond byddwn yn parhau i gydweithio, ac mae’r newyddion cadarnhaol am y rhaglen frechu yn y DU yn golygu y gallwn edrych tua’r dyfodol gyda gobaith ac optimistiaeth.”
Prydau ysgol am ddim
Fodd bynnag, caiff taliadau eu cynyddu i gwmpasu’r diwrnodau y bydd plant oedran uwchradd yn eu treulio’n dysgu gartref yr wythnos nesaf.
Ac oherwydd y bydd safleoedd ysgolion cynradd ar gau ddydd Iau a dydd Gwener nesaf, bydd rhieni a gofalwyr yn cael deuddydd ychwanegol o daliadau ar ben eu taliad ar gyfer y gwyliau.
Os oes gennych unrhyw bryderon am brydau ysgol am ddim, cysylltwch â freeschoolmeals@wrexham.gov.uk
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG