Frost

Mae’r tymheredd dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn ofnadwy o oer, ac er bod y cyngor yn gwneud yn siŵr fod y lonydd yn cael eu graeanu, mae angen i ni barhau i fod yn ofalus!

Mae’r cerbydau graeanu wedi bod allan ddwywaith gyda’r nos dros yr wythnos ddiwethaf, ac weithiau yn y boreau a’r prynhawniau hefyd.  Ond dyma ychydig o bethau yr ydych angen bod yn ymwybodol ohonynt i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel pan fyddwch yn mynd allan dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf:

  • byddwch yn ofalus iawn os ydych yn gweld dŵr sy’n sefyll neu’n llifo, hyd yn oed os yw’r ffordd wedi cael ei graeanu
  • byddwch yn ofalus iawn ar lwybrau troed a throedffyrdd gan eu bod yn aros yn rhewllyd
  • mae sawl gollyngiad dŵr wedi codi o gwmpas y fwrdeistref sirol a lle mae’r rhain yn gollwng ar dir sydd eisoes wedi rhewi, mae angen cymryd gofal ychwanegol.  Os yw’r risgiau o hyn yn mynd yn sylweddol, byddwn yn ystyried rheoli traffig neu gau ffyrdd pan mae popeth arall wedi methu.  Cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.
  • Os oes angen i chi barcio ar y stryd, gwnewch hynny yn ystyrlon gan gofio efallai y bydd angen i gerbydau graeanu mawr basio drwodd.  Os bydd cerbydau wedi’u parcio yn rhwystro’r cerbydau graeanu rhag pasio drwodd, ni fyddwn yn gallu trin y llwybr yn iawn.

Wrth i’r penwythnos agosáu, mae rhagolygon y tywydd i fod i newid ac er efallai y byddwch yn falch o glywed y bydd hi ychydig yn gynhesach, wrth i dymheredd godi, gall arwain at dywydd gwlyb ac os bydd y tymheredd yn aros yn isel, efallai byddwn yn cael eira mewn rhai rhannau o’r fwrdeistref sirol.

Mae tudalen Twitter (@wrexhamcbc) a Facebook (@wrexhamcouncil) Cyngor Wrecsam yn cael eu diweddaru yn rheolaidd gyda newyddion am waith graeanu, rheoli traffig a chau ffyrdd felly dilynwch ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf.