Mae Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn cael ei gynnal yng nghanol tref Wrecsam ddydd Sadwrn, 18 Mehefin 2022.
Mae trefnwyr nawr yn apelio ar grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n dymuno cefnogi’r diwrnod i gysylltu.
Maent yn awyddus i glywed gan grwpiau ieuenctid, cerddorion, corau, cwmnïau dawnsio neu’r sawl sy’n dymuno cael stondin cymunedol neu sy’n dymuno gwirfoddoli i helpu ar y diwrnod.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae’n gyfle i ddangos eich cefnogaeth i’r dynion a’r merched sy’n rhan o’r gymuned Lluoedd Arfog: o luoedd sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd milwyr, cyn-filwyr a chadetiaid.
“Rydym eisiau rhoi diwrnod i’w gofio iddyn nhw i gyd, felly cymerwch funud i feddwl am sut y gallwch chi gymryd rhan a chysylltu.”
Mae’n hawdd i’w wneud, llenwch y manylion yn y ddolen isod a’i anfon at Ian Pritchard, Swyddog Cefnogi’r Lluoedd Arfog drwy e-bost at ian.pritchard@wrexham.gov.uk
Datgan diddordeb mewn cymryd rhan yn Niwrnod Lluoedd Arfog Wrecsam
Gallwch wybod mwy am yr hyn a drefnwyd ar gyfer Diwrnod Lluoedd Arfog yn Wrecsam ar 18 Mehefin yma.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL