Mae’r Wythnos Fawr Werdd yn digwydd rhwng 18 a 26 Medi, ble bydd cymunedau ar draws y wlad yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad hinsawdd a natur mwyaf a welwyd yn y DU.
Mae gwahoddiad i bawb gymryd rhan er mwyn dangos ein bod yn malio a’n bod yn barod i gymryd camau i annog gweithrediad a brwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Sut alla i gymryd rhan yn yr Wythnos Fawr Werdd?
Mae’n hawdd iawn i unrhyw un gymryd rhan – gall ysgolion gynnal gwasanaeth arbennig yn seiliedig ar newid hinsawdd, neu gall grwpiau drefnu digwyddiadau fel trefnu i’r gymuned ddod ynghyd i godi sbwriel. Gall unigolion gymryd rhan drwy wneud rhywbeth mor fach â phlannu blodau gwyllt neu blanhigion ar gyfer yr hydref mewn ardal yn eu gardd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i drefnu digwyddiad a sut i gymryd rhan drwy fynd i wefan yr Wythnos Fawr Werdd.
neu gwyliwch y fideo isod gan y trefnwyr – The Climate Coalition
(Saesneg yn unig)
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae digwyddiadau diweddar ar draws y byd yn dangos yr effaith mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein bywydau. O danau gwyllt cynddeiriog i lifogydd mawr, gall eu heffaith ar boblogaethau a’r amgylchedd fod yn ddinistriol.
“Cafwyd llifogydd yma yn Wrecsam yn gynharach yn y flwyddyn, ac rydym ni wedi gweld yr effaith a gafodd hyn ar Fangor-Is-y-Coed, Holt a’r difrod a achoswyd i’r B5605 yn Newbridge, sy’n achosi anhwylustod i’r cymunedau lleol.
“Nawr yw’r amser i weithredu a buaswn yn annog grwpiau, sefydliadau ac unigolion ar draws Wrecsam i gymryd rhan yn yr wythnos drwy un ai gynnal digwyddiad neu gymryd rhan mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu yn eich ardal.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN