Mae ymgyrch genedlaethol ar y gweill yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o dwyll #stopiosgiâm
Efallai y credwch chi ei bod yn hawdd adnabod sgamiau, ond fe synnech chi pa mor hawdd yw cael eich twyllo i rannu manylion personol megis eich manylion banc, neu gael eich twyllo i wario’ch arian parod drwy dalu am waith neu nwyddau nad ydych chi mo’u hangen neu weithiau, nad ydyn nhw hyd yn oed yn bodoli. 🙁
Fe fyddwn ni’n cymryd rhan yn yr ymgyrch a gobeithio y bydd rhywfaint o’r wybodaeth y byddwch chi’n dod ar ei thraws o fudd i chi osgoi cael eich twyllo. Mae yna ddigon o bobl o gwmpas sy’n rhoi cynnig ar y sgamiau hyn, ac yn anffodus, mae rhai ohonyn nhw’n llwyddo, gan arwain at golled ariannol, tristwch a gofid.
Bu i’r swyddfa Archwilio Genedlaethol amcangyfrif yn ddiweddar fod pobl yn colli £10 biliwn drwy sgamiau bob blwyddyn! A chanfu adroddiad diweddar gan Cyngor ar Bopeth fod bron i dri chwarter y bobl hynny a gymerodd ran mewn arolwg wedi cael eu targedu gan sgam yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Gall unrhyw un gael ei dargedu ac mae angen i bawb ohonon ni fod yn ymwybodol o dwyll er mwyn ymladd yn ôl #stopiosgiâm
Prif neges yr ymgyrch yw “stopiwch, hysbyswch, siaradwch” os ydych chi’n meddwl eich bod yn cael eich targedu gan sgam ac yn gwybod beth i’w wneud.
Stopiwch…
Cofiwch y gallwch chi stopio a cheisio cyngor gan Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 03454 04 05 05.
Hysbyswch…
Hysbyswch Action Fraud am sgamiau drwy ffonio 0300 123 2040 neu gysylltu â @actionfraudUK ar Twitter.
Siaradwch…
Siaradwch â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion am sgamiau y maen nhw wedi dod ar eu traws.
Cofiwch y gall bod yn ymwybodol o dwyll arbed llawer o amser, arian, gofid, tristwch a thrafferth i chi, eich teulu a’ch ffrindiau. 🙂 #stopiosgiâm
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN