Wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, mae llawer o ansicrwydd o hyd am gostau byw a pha help, cyngor a gwybodaeth sydd ar gael y mae modd dibynnu arnynt.
Rydym yn sôn am rai pethau rydym ni’n ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd a allai gostio’n fawr i chi dros y misoedd nesaf os na fyddwch chi’n Stopio, Herio a Diogelu
Cyfrineiriau Untro
Rydym yn ymwybodol bod troseddwyr yn cysylltu â phobl dros y ffôn/neges destun i ddweud eu bod yn gweithio i’ch banc a bod angen eich cyfrinair untro arnynt am un o’r rhesymau canlynol:
- Prosesu hawliad twyllodrus
- Prosesu ad-daliad ar eich cyfrif
- Atal taliad rhag cael ei brosesu
- Adfer arian i’ch cyfrif
Ni fydd eich banc FYTH yn gofyn i chi am eich cyfrinair untro. Os bydd unrhyw un yn gofyn amdano, rhowch y ffôn i lawr oherwydd sgiâm ydyw.
Sgamiau Rhamant
Dyma lle bydd troseddwyr yn creu proffiliau ffug a’u defnyddio i feithrin perthynas gyda chi er mwyn gofyn i chi am arian yn y pen draw.
Dyma rai awgrymiadau gwych i’ch diogelu chi:
- Peidiwch ag anfon arian, buddsoddi na rhannu manylion eich cyfrif banc gyda rhywun nad ydych chi wedi’u cyfarfod.
- Peidiwch byth â phrynu cardiau anrheg/talebau ar gais rhywun arall oherwydd gall hyn fod yn arwydd o sgiâm.
Peidiwch byth â rhannu copïau o’ch dogfennau personol fel eich pasbort neu eich trwydded yrru.
Sgamiau Dynwared
Dyma lle bydd troseddwyr yn eich perswadio i ddarparu manylion personol a/neu ariannol wrth smalio eu bod yn gweithio i Vanquis, eu bod yn ffrind, aelod o’r teulu, yr heddlu, eich banc, cwmni cyfleustodau neu adran y llywodraeth fel Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Dyma rai awgrymiadau gwych i’ch diogelu chi:
- Peidiwch byth â rhannu eich rhif PIN na manylion eich cerdyn, ni fydd cwmni yn eich bygwth er mwyn cael rhain.
- Ffoniwch ffrindiau neu aelodau o’r teulu gan ddefnyddio dull cyswllt arall er mwyn gwirio bod y cais yn ddilys.
- Ffoniwch y cwmni ar rif ffôn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel y rhif ar eu gwefan neu’r ap ffôn symudol, nid oddi ar y cyfryngau cymdeithasol na Hysbyseb Google.
Rydym hefyd yn ymwybodol o droseddwyr yn dynwared darparwyr ynni a’r llywodraeth i dwyllo defnyddwyr i rannu manylion eu cerdyn neu eu cyfrif. Mae’r troseddwyr hyn yn gofyn i ddefnyddwyr glicio ar ddolenni i wneud cais am filiau ynni am bris gostyngol dan y Cynllun Cymorth Biliau Ynni. Mae hwn yn ostyngiad awtomatig ac nid oes angen i chi wneud cais amdano.
Mae troseddwyr yn arbenigwyr ar ddynwared pobl, sefydliadau a’r heddlu. Maen nhw’n treulio oriau’n eich ymchwilio chi ar gyfer eu sgamiau, gan obeithio y byddwch chi’n tynnu eich sylw am funud. Stopiwch, meddyliwch a heriwch. Gallai eich diogelu chi a’ch arian.
Gofynnwch i chi’ch hun bob amser “allai hwn fod yn ffug?” Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr wnaiff geisio eich rhuthro neu eich dychryn chi.
Cysylltwch â’ch banc ar unwaith os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich twyllo gan sgiâm, a rhowch wybod i Action Fraud am hyn.
Defnyddiwch ffynonellau gwybodaeth y gallwch ymddiried ynddynt yn unig:
A chofiwch roi gwybod i Action Fraud am unrhyw negeseuon testun neu negeseuon e-bost amheus naill ai ar-lein https://www.actionfraud.police.uk neu dros y ffôn 0300 123 2040
Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd
Cymerwch ran yn ein harolwg