Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Ryngwladol Spirit Fest Paallam yn dychwelyd i Sgwâr y Frenhines Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Gŵyl Ryngwladol Spirit Fest Paallam yn dychwelyd i Sgwâr y Frenhines Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Gŵyl Ryngwladol Spirit Fest Paallam yn dychwelyd i Sgwâr y Frenhines Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 9, 2026 2:56 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gŵyl Ryngwladol Spirit Fest Paallam yn dychwelyd i Sgwâr y Frenhines Wrecsam
RHANNU

Arthygl Gwadd Paallam Arts

Bydd 4ydd gŵyl dawns a symudiad awyr agored am ddim y ddinas yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 18fed Gorffennaf

Bydd Wrecsam yn croesawu artistiaid o bob cwr o’r byd i Sgwâr y Frenhines yr haf hwn, wrth i ŵyl gelfyddydol flaenllaw y ddinas, Spirit Fest, ddychwelyd gyda’i rhaglen fwyaf beiddgar eto.

Wedi’i churadu a’i chreu gan y cwmni arobryn Paallam Arts, bydd cyfle i Wrecsam fwynhau cymysgedd arbennig o ddawns, syrcas, theatr ac artistiaid symudiad o Wrecsam ac ardaloedd eraill yng Nghymru, Iwerddon, India a Sbaen yn yr ŵyl awyr agored am ddim a fydd yn dechrau am 10:30am ar ddydd Sadwrn 18fed Gorffennaf.

“Mae Spirit Fest 26 yn addo bod yn ddigwyddiad bywiog, llawn egni a bwrlwm a fydd yn adlewyrchu’r gorau o’n dinas,” meddai Krishnaypriya Ramamoorthy, cynhyrchydd gyda Paallam Arts, “Byddwn yn cynnig cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd wylio, cyfranogi a mwynhau profiad heb ei ail, un sydd wedi’i greu a’i guradu ar gyfer pobl Wrecsam.”

Uchafbwynt yr ŵyl fydd NoFit State Circus, cwmni syrcas cyfoes graddfa fawr mwyaf blaenllaw y DU, a fydd yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf yn eu hanes. Bydd Kitsch n Sync Collective hefyd yn chwarae rhan allweddol, gan ddod â’u cyfuniad unigryw o gomedi a theatr stryd i’r sgwâr, ochr yn ochr â gwaith penodol i’r lleoliad sydd wedi’i guradu’n arbennig gan y cwmni syrcas o Iwerddon, Cirkada, wedi’i gefnogi gan Culture Ireland.

Eleni am y tro cyntaf, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys cynhadledd undydd ar ddydd Gwener 17eg Gorffennaf, a fydd yn cysylltu Cymru â’r byd ac yn cynnig cyfleoedd i drafod sut all y sector gydweithredu a ffurfio partneriaethau rhyngwladol yn well.

Eglurodd Krishnapriya, “Rydyn ni’n angerddol ynghylch datblygu a darparu fframwaith rhyngwladol ar gyfer artistiaid sy’n galluogi cysylltiadau tymor hir ac sy’n rhoi cymaint o fudd i ni yn Wrecsam ag y mae i’n cydweithredwyr.


“Dywedodd un o’n partneriaid hirdymor, Mr Manoj Kumar, Cyfarwyddwr Ayodhana Kalarippayyattu Gurukkul yn ddiweddar, ‘ Pan rydych chi’n tyfu, rydyn ni’n tyfu’, a dyna’n union sut rydym yn gweld elfen gynhadledd ychwanegol eleni. Mae’n gyfle i ddysgu, tyfu a rhannu ochr yn ochr ag artistiaid sy’n gweithio’n lleol, ac yn llawer pellach i ffwrdd.”

Yn y cyfnod yn arwain at yr ŵyl, bydd yna hefyd weithdai addysgol cymorthdaledig ar gyfer ysgolion a phobl ifanc sy’n byw yn y ddinas, wedi’u trefnu a’u cynnal gan Paallam.

“Rydyn ni’n credu’n gryf yn ein galllu i sefydlu a meithrin sgiliau lleol, felly dyna pam mae’r rhaglen estyn allan addysgol mor bwysig ag y mae’r holl ŵyl ei hun,” ychwanegodd Krishnapriya, “I ni, dyma ble rydyn ni’n gallu creu effaith hirdymor sylweddol, a dechrau sgwrs o oedran ifanc iawn.”


Gwybodaeth ar gyfer cyhoeddi
Spirit Fest ‘26 Paallam
Dydd Sadwrn 18fed Gorffennaf, o 10.30am tan 6.30pm
Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Am ddim

Cynhadledd Spirit Fest Paallam,
Dydd Gwener 17eg Gorffennaf
Manylion llawn i’w cyhoeddi

Mwy o wybodaeth ar y wefan

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae arwyddion maes parcio newydd yn cael eu gosod fel rhan o brosiect a ariennir gan grant CFfG Mae arwyddion maes parcio newydd yn cael eu gosod fel rhan o brosiect a ariennir gan grant CFfG
Erthygl nesaf Efallai mai ymuno â ni fydd cam nesaf eich gyrfa! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Efallai mai ymuno â ni fydd cam nesaf eich gyrfa! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English