Wrth i’r canmlwyddiant ers diwedd y rhyfel byd cyntaf nesáu, mae gennym lawer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu i gofio’r achlysur hanesyddol hwn, ac i roi cipolwg o fywyd ar Ffrynt y Gorllewin.
Yn fuan ar ôl ergydion cyntaf y rhyfel yn Ewrop, bu’n rhaid i’r ddwy ochr adeiladu ffosydd i amddiffyn eu hunain rhag y gelyn.
Roedd y ffosydd yn eithaf cymhleth gyda bynceri storio a ffosydd wrth gefn rhag ofn i’r prif ffosydd gael eu meddiannu gan y gelyn. Yn ogystal â hynny, roedd ffosydd cysylltiol er mwyn i’r milwyr allu symud o un ffos i’r llall ac i gario’r clwyfedigion.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth oedd bywyd yn y ffosydd hyn?
Bydd cyfle ar 10 Tachwedd i ddarganfod sut oedd y milwyr yn dygymod yn y ffosydd, pan fydd ffos symudol yn dod i Sgwâr y Frenhines. Mae’n rhoi blas diddorol o fywyd ar Ffrynt y Gorllewin ac yn rhoi rhywbeth i’n helpu ni gydymdeimlo â’r milwyr pan fyddwn yn ‘cofio’ yn swyddogol ddiwrnod wedyn am 11am – yr union amser y cafodd y cadoediad ei arwyddo.
Yn ogystal â’r ffos, bydd cyfle i weld awyren ddwbl – Bristol Scout Static gwreiddiol (i ryw raddau). Mae nifer o ddarnau gwreiddiol yr awyren wedi goroesi hyd heddiw, a dyma’r unig enghraifft yn y byd o awyren ddwbl sy’n dal i hedfan!
Mae’r arddangosfeydd yn rhad ac am ddim a bydd ar agor rhwng 10am a 4pm.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU