Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadwch eich cadi bwyd yn ffres gyda’r argymhellion yma
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cadwch eich cadi bwyd yn ffres gyda’r argymhellion yma
Y cyngorPobl a lle

Cadwch eich cadi bwyd yn ffres gyda’r argymhellion yma

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2024 5:26 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Food Waste Recycling Caddy
RHANNU

Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd eto?  Os nad ydych chi, fe ddylech chi, gan fod yna nifer o resymau pam bod ailgylchu gwastraff bwyd yn dda – yn bennaf mae’n helpu i atal eich biniau arferol rhag drewi…yn enwedig yn ystod misoedd yr haf.

Cynnwys
  • Awgrymiadau i gadw eich cadi bwyd yn ffres
  • Archebu cadi newydd
    • Rydym ni’n cynnig bagiau cadi bwyd am ddim

Mae pobl yn dueddol o feddwl nad yw ailgylchu gwastraff bwyd yn lanwaith, ond mewn gwirionedd, mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon, ac mae’n llawer mwy glanwaith na rhoi popeth yn y bin yn ddiofal. 

Cofiwch, mae cynnwys ein biniau gwastraff bwyd yn cael eu casglu bob wythnos, nid yw’r un peth yn wir ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.  Ydych chi wir eisiau i’ch gwastraff bwyd fod yn eich bin am ychydig wythnosau yn gwneud i bopeth ddrewi?

Mae’n llawer llai drewllyd i ailgylchu gwastraff bwyd er mwyn i ni ei gasglu gennych chi’n wythnosol.

Wedi dweud hynny, fe wyddom ni fod biniau bwyd angen ychydig mwy o sylw dros yr haf, felly dyma argymhellion i gadw eich cadi bwyd yn lân.

Awgrymiadau i gadw eich cadi bwyd yn ffres

  • Gwagiwch y bag yn fwy aml mewn tywydd cynnes. Yn syml, os ydi hi’n boeth bydd cynnwys eich cadi bwyd yn dechrau arogli yn gynt nag yn ystod y misoedd oerach. Ceisiwch ei wagio’n fwy rheolaidd pan mae hi’n gynnes. Cofiwch, caiff y cynwysyddion eu gwagio’n wythnosol.
  • Glanhewch/diheintiwch y cadi yn rheolaidd. Fel unrhyw fin sydd gennych, bydd eich cadi angen ychydig o ofal hefyd. Ceisiwch ei lanhau’n rheolaidd, yn arbennig pan mae’n gynnes.
  • Gwasgarwch ychydig o ficarbonad soda yng ngwaelod y bin. Mae bicarbonad soda yn ffordd dda o niwtraleiddio arogl yn gyflym, felly os oes gennych ychydig yn y cwpwrdd yna efallai byddwch angen rhoi ychydig yng ngwaelod eich bin.
  • Glanhewch unrhyw beth sydd wedi diferu ar unwaith. Weithiau mae diferion yn digwydd, ond mae gwneud yn siŵr eich bod yn eu glanhau yn gyflym yn helpu i atal unrhyw aroglau.
  • Cadwch gadi bwyd y gegin allan o olau uniongyrchol yr haul. Bydd lleoli eich cadi bwyd mewn lle oer, allan o olau uniongyrchol yr haul yn help mawr.
  • Cadwch y caead ar gau. Bydd cau’r caead yn cadw pryfaid i ffwrdd ac yn stopio’r arogl rhag mynd o amgylch yr ystafell, felly os nad ydych yn gwneud yn barod, ceisiwch ddechrau cau’r caead.
  • Peidiwch â gorlenwi eich bag bin bwyd. Problem gyffredin yw bod bagiau bin bwyd yn rhwygo, ac un o’r ffyrdd gorau o atal hyn rhag digwydd yw sicrhau nad ydych yn eu gorlenwi nhw.
  • Ewch â’ch cadi cegin y tu allan pan fyddwch yn trosglwyddo gwastraff. Awgrym defnyddiol arall yw cario eich gwastraff bwyd allan i’ch cadi cegin pan fyddwch chi’n barod i’w drosglwyddo i’r cadi ymyl ffordd. Mae hyn yn ei atal rhag rhwygo ac unrhyw hylif rhag colli.

Gobeithio eich bod chi rŵan yn barod i ailgylchu eich gwastraff bwyd. Angen cadi neu fagiau? Dim problem, fe allech chi gael y ddau am ddim.

Archebu cadi newydd

Rydym ni’n cynnig cadi cegin a biniau ymyl ffordd newydd, felly peidiwch â phoeni – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu un newydd.

Gallwch wneud cais am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan, lle gallwch chi hefyd archebu bocsys ailgylchu newydd hefyd os ydych chi eu hangen.  Byddwn yn danfon eich cadi newydd atoch cyn gynted ag y gallwn, ond weithiau rydym ni’n cael nifer fawr iawn o’r ceisiadau yma allai olygu bod yn rhaid i chi aros am eich un chi. Os nad ydi’ch cadi’n cyrraedd yn gyflym, ceisiwch fod yn amyneddgar wrth i ni weithio ein ffordd drwy’r rhestr o archebion.

Rydym ni’n cynnig bagiau cadi bwyd am ddim

I gael bagiau newydd ar gyfer eich cadi bwyd, gallwch glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod eich casgliad nesaf a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Caddy food waste recycling liner

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleustra, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Yn Wrecsam rydym ni’n darparu cadis bwyd a bagiau bin bwyd am ddim er mwyn ceisio ei gwneud hi’n haws i breswylwyr ailgylchu gwastraff bwyd.  Er bod nifer yn manteisio ar y gwasanaeth yma, yn anffodus nid yw rhai preswylwyr yn ailgylchu unrhyw wastraff bwyd.  Sicrhewch eich bod yn manteisio ar ein gwasanaeth ailgylchu bwyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Cofiwch: Mae Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd yn para tan fis Chwefror 2025 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchufood wastegwastraff bwydrecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Dewch i chwerthin yn Noson Gomedi Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Wrexham Industrial Cadets Gyrfa mewn peirianneg? Cynllun peilot yn ysbrydoli myfyrwyr ysgol uwchradd yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English