Rydym yn rhybuddio pobl i gymryd gofal wrth ddefnyddio tacsis yn dilyn adroddiadau bod gyrrwr ffug ar waith. Mae’r heddlu’n ymwybodol ac yn ymchwilio.
Yr unig ffordd y mae cerbyd hurio preifat yn un cyfreithlon yw os yw wedi’i drwyddedu gan y Cyngor a’i rag-archebu drwy gwmni hurio preifat. Mae’n anghyfreithlon i gerbyd hurio preifat dderbyn cwsmer ar ôl cael eu galw ar ymyl y stryd. Dim ond Cerbydau Hacni Trwyddedig Wrecsam (‘tacsis du’) sy’n cael ceisio am fusnes ar y stryd. Mae’r Adran Drwyddedu, mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn gweithio i fynd i’r afael â thacsis heb drwydded a dylid rhoi gwybod iddynt ar unwaith os oes unrhyw weithgareddau o’r fath ar waith.
Bydd cerbyd hurio preifat trwyddedig yn arddangos platiau trwydded ar y cerbyd a bydd y gyrrwr yn gwisgo bathodyn adnabod ac yn arddangos copi ar y sgrin flaen. Mae’r holl gerbydau hurio preifat yn Wrecsam yn arddangos sticeri melyn amlwg ar y ffenestri cefn ochr y teithiwr. Bydd yr holl yrwyr trwyddedig wedi derbyn Gwiriad DBS ar gyfer Cofnodion Troseddol ac euogfarnau gyrru’r DVLA.
Ar Gerbyd Hacni trwyddedig bydd plât ôl yn cael ei arddangos a bydd arwydd ‘TACSI’ wedi’i oleuo ar y to.
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael siwrne ddiogel, dyma rai awgrymiadau defnyddiol:
- TREFNWCH YMLAEN LLAW – cynlluniwch ymlaen llaw a bwciwch eich tacsi drwy weithredwr trwyddedig, neu fel arall defnyddiwch un o’r safleoedd tacsi yng nghanol y dref.
- GWIRIWCH Y MANYLION – pan fyddwch yn bwcio tacsi gofynnwch am fanylion y car a phan fydd yn cyrraedd gofalwch fod y gyrrwr yn gwybod yn barod i le ‘da chi angen mynd a beth yw eich enw chi neu’r sawl wnaeth y trefniant.
- GWIRIWCH Y PLATIAU – gwnewch yn si r bod platiau cerbyd hurio preifat swyddogol wedi’u gosod ar du blaen a thu ôl y cerbyd. Mae platiau hurio preifat yn wyn a phlatiau cerbydau hacni yn borffor ac yn cael eu harddangos ar du ôl y cerbyd yn unig.
- GOFYNNWCH AM ID – gofynnwch am gael gweld bathodyn adnabod y gyrrwr. Mae dyletswydd ar y gyrrwr i wisgo’i fathodyn/bathodyn fel ei fod i’w weld yn amlwg. Does dim rheswm pam y dylai gyrwyr wrthod dangos eu bathodyn i gwsmer ac nid oes ganddynt hawl i fynd ar siwrneiau trwyddedig heb y bathodyn.
- PEIDIWCH â rhoi unrhyw fanylion personol i ’r gyrrwr ar wahân i ’r hyn mae o/hi angen i wybod i fynd â chi i’r cyfeiriad cywir.
Os ydych yn amau fod rhywun yn defnyddio cerbyd fel tacsi didrwydded gallwch riportio hynny i’r Adran Drwyddedu ar 01978 315786 neu ffonio’r Heddlu ar 101. Ni fydd rhaid i chi roi eich enw os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN