Gall cais diweddar am £30 miliwn i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU arwain at welliannau hir ddisgwyliedig i lein Wrecsam-Bidston, sy’n cludo teithwyr i ac o ogledd orllewin Lloegr.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r rhwydwaith rheilffordd yn diwallu anghenion busnesau, pobl a chymunedau lleol. Ers peth amser bellach rydym ni fel Cyngor wedi ymgyrchu a lobio am welliannau i’r lein yma, sy’n cefnogi ein dogfen Dyfodol y Rheilffordd a gytunwyd arni yn ystod cyfarfod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
“Ein nod ydi gweld gwasanaeth 30 munud ar hyd y llwybr yma a llwybrau eraill, a gall hynny ddigwydd yn fuan – yn amserlen mis Rhagfyr gobeithio. Byddwn yn parhau i ganlyn ein dyheadau rheilffordd i wella integreiddio rhwng bysiau a threnau, ac i leihau ôl troed carbon.”
Meddai’r Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, “Rwy’n croesawu’r cais hwn am gyllid a all arwain at gysylltiadau da i’r rhwydwaith rheilffyrdd a gwasanaethau amlach i gyrchfannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol allweddol. Mae bob un yn hanfodol i helpu i sbarduno ac ysgogi twf economaidd yn Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio ar draws Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy i gefnogi a sbarduno’r economi yn Wrecsam.”
Dyma’r trydydd cais i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU sy’n canolbwyntio ar ffyniant economaidd Wrecsam.
Yr wythnos ddiwethaf cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol ddau gais i’r gronfa – ar gyfer gwelliannau i’r Cae Ras ac i Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF