Mae defnyddio Bathodyn Glas yn dwyllodrus wedi bod yn gostus i ddyn lleol.
Yn ddiweddar cafwyd Andrew Burrows yn euog o gyhuddiadau gan Ynadon Wrecsam a rhoddwyd dirwy o £100 iddo gyda £217 o gostau a Gordal Dioddefwr o £34. Rhoddwyd Rhyddhad Amodol o 6 mis iddo hefyd.
Roedd Mr Burrows yn defnyddio Bathodyn Glas dilys i barcio yng nghanol tref Wrecsam ond nid oedd deiliad y cerdyn yn y car ar y pryd.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’n bwysig cofio mai ar gyfer y deiliad yn unig y mae’r Bathodyn Glas, ac ni ddylai aelodau’r teulu na ffrindiau ei ddefnyddio er mwyn hwyluso parcio iddyn nhw, hyd yn oed os ydynt yn gwneud pethau i helpu’r deiliad megis mynd i nôl presgripsiwn neu siopa.
Rhoddir Bathodynnau Glas i bobl ag anableddau gweladwy ac anweladwy i’w galluogi i gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau drwy barcio’n agosach at eu cyrchfan.
Dylid trin y Bathodyn Glas gyda pharch
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Rhoddir Bathodynnau Glas i bobl ag anableddau gwirioneddol, i’w helpu o ddydd i ddydd.
“Dydyn nhw ddim i gael eu defnyddio gan bobl abl i barcio mewn lleoedd sydd wedi’u bwriadu ar gyfer defnyddwyr anabl. Mae gwneud hynny’n golygu efallai na fydd person gwirioneddol anabl yn gallu parcio’n agos at y gwasanaeth sydd ei angen arno.
“Dylid trin Bathodynnau Glas a’r rhai sy’n eu defnyddio gyda pharch. Y tro hwn cafodd y troseddwr hwn ei ddal ac ymdriniwyd ag o yn unol â’r gyfraith.
“Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir y gall defnyddio bathodyn glas er budd personol arwain at achos llys a dirwy.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL