Wythnos diwethaf, fe wnaethom ni sôn ein bod wedi dechrau cysylltu â phreswylwyr ynglŷn â’r Canfasiad Blynyddol, gan fod angen iddynt wirio a diweddau’r wybodaeth am eu haelwyd ar y gofrestr etholwyr.
Rydym ni wedi cael ymateb cychwynnol cadarnhaol iawn gan yr aelwydydd rydym ni wedi cysylltu â nhw, ond mae rhai wedi cysylltu â ni i ddweud nad ydych wedi derbyn unrhyw beth gennym ni hyd yn hyn.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi derbyn unrhyw beth yn y post eto.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Byddwn yn cysylltu’n fuan
Os nad ydych wedi derbyn ffurflen i’w llenwi eto, mae hynny’n golygu fod eich manylion yn cyd-fynd â’r rhai sydd gan Yr Adran Gwaith a Phensiynau ar eich cyfer. Os mai dyma’r achos, byddwch yn derbyn llythyr ar ddiwedd mis Awst, a chyn belled â bod dim wedi newid, ni fydd yn rhaid i chi ymateb.
Os ydych wedi derbyn FFURFLEN, bydd angen i chi ymateb.
Yr unig adeg na fydd rhaid i chi ymateb yw os byddwch cyn derbyn LLYTHYR ar ddiwedd y mis a bod y manylion yn gywir.
Bydd angen i bawb sy’n derbyn FFURFLEN gennym ni ymateb i gadarnhau’r manylion ar gyfer eich aelwyd, hyd yn oed os ydynt yn gywir. I gael gwybodaeth ynglŷn â sut i ymateb, darllenwch erthygl yr wythnos diwethaf…
“Diolch – rydym yn gwerthfawrogi”
Dywedodd y Cyng. David Kelly, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Cofrestru: “Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ymateb i’r Canfasiad Blynyddol hyd yn hyn. Mae nifer ohonoch wedi cadarnhau a diweddaru manylion eich aelwyd, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr…mae’n hanfodol ein bod yn clywed yn ôl gennych chi pan mae angen ymateb. Mae’n broses gyflym a syml sydd yn eithriadol o bwysig i sicrhau fod yr wybodaeth gywir ar y gofrestr etholwyr.
“Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi derbyn unrhyw beth gennym ni eto gan y bydd rhai ohonoch yn derbyn llythyr ar ddiwedd y mis, ac efallai na fydd yn rhaid i chi ymateb, cyn belled a bod eich manylion heb newid. Ond bydd rhaid i bawb sy’n derbyn ffurflen ymateb.”
Gofyniad Cyfreithiol
Cofiwch, mae’n ofyniad cyfreithiol i roi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn y Canfasiad Blynyddol. Os nad ydych chi’n ymateb i’r ffurlfen, gallech gael dirwy o hyd at £1,000, felly sicrhewch nad ydych chi’n colli eich cyfle i gofrestru i bleidleisio.
Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf
YMGEISIWCH RŴAN